Cyhuddo dau ddyn wedi i ffatri ganabis arall gael ei darganfod ym Mangor

Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo ar ôl i ffatri ganabis "ar raddfa ddiwydiannol" gael ei darganfod ar Stryd Fawr Bangor ar ddydd Iau 27 Ebrill.
Mae Fatjon Tarja, 32, ac Indrit Balliu, 31, y ddau yn ddinasyddion Albanaidd, wedi’u cyhuddo o gynhyrchu canabis ac fe fydd y ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd y bydd presenoldeb eu swyddogion yn parhau ar y Stryd Fawr dros y dyddiau nesaf tra bod eu hymchwiliadau yn parhau.
Ychwanegodd y llu mewn datganiad: "Gwerthfawrogwn yr anghyfleustra y gall hyn ei achosi a diolchwn i'r gymuned am eu cefnogaeth barhaus.
"Rydym yn parhau i ymateb i wybodaeth am ffermydd canabis...os gwelwch, clywch, neu aroglwch unrhyw rai o'r arwyddion, cysylltwch yn uniongyrchol neu'n ddienw. Byddwn yn asesu'r wybodaeth ac yn cymryd camau priodol."
Daw hyn wedi i'r heddlu gyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i ffatri ganabis arall ar raddfa ddiwydiannol ar Stryd Fawr Bangor ddiwedd Mawrth.
Cafodd ffatri ganabis bedwar llawr mewn adeilad gwag ei darganfod ddiwedd mis Ionawr, ac un arall ym mis Chwefror hefyd.