Newyddion S4C

Arwydd yr Eisteddfod

Dim sôn am gyfyngu corau mewn adroddiad i’r Eisteddfod

Does dim sôn am gyfyngu ar nifer y corau ar y prif lwyfan mewn adroddiad annibynnol o gystadlaethau’r Eisteddfod.

Fis Mawrth mi gyhoeddwyd fod trefn y cystadlu torfol yn newid eleni, gan gynnwys cyfyngu ar nifer y corau a fydd yn ymddangos ar y prif lwyfan i dri.

Ers hynny mae degau o gorau a chyn-feirniaid wedi galw ar swyddogion y Brifwyl i ailystyried.

Dywedodd yr Eisteddfod fod y newidiadau wedi eu gwneud yn dilyn adolygiad annibynnol o gystadlaethau’r Eisteddfod.

Mae copi o’r adolygiad o gystadlaethau’r Eisteddfod wedi dod i law Newyddion S4C, a does dim cyfeiriad ynddo at gyfyngu nifer y corau sy’n ymddangos ar y prif lwyfan.

Cafodd yr adolygiad annibynnol, a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, ei gyflwyno i’r Eisteddfod yn Ebrill 2022, ac nid yw wedi’i gyhoeddi eto.

Mae awduron yr adolygiad, cwmni ymchwil OB3, wedi cadarnhau “nad yw’r adolygiad yn gwneud argymhelliad penodol am gyfyngu ar nifer y corau sy’n ymddangos ar lwyfan y pafiliwn i’r tri gorau”.

‘Democrataidd’

Mae’r cwmni ymchwil yn dweud fod yr adolygiad gafodd ei gynnal  “dros gyfnod o dri mis” yn gyfle i bobl “leisio eu barn am holl gystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod”. 

Mi gaethon nhw farn “unigolion allweddol i’r cystadlu” gan ddefnyddio ‘ystod o dechnegau ymchwil’ oedd yn cynnwys ‘cyfweliadau unigol a grwpiau ffocws.’

Mi wnaethon nhw gasglu barn "160 o unigolion i gyd".

Yn ôl yr Eisteddfod mae “cynnwys a chanfyddiadau’r adolygiad wedi’u trafod yn hir gan ein panelau (sy’n cynnwys cynrychiolaeth o’n cystadleuwyr, beirniaid, y swyddogion lleol ynghyd ag arbenigwyr yn y maes), y Pwyllgor Diwylliannol, Cyngor a Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod” a’u bod wed dilyn “llwybr democrataidd pob penderfyniad polisi a wneir gan y sefydliad”.

Pwrpas yr adolygiad, oedd casglu barn ar y cystadlaethau perfformio “er mwyn cynorthwyo’r Eisteddfod i gynllunio ar gyfer y dyfodol mewn ffordd gynaliadwy,” medden nhw. 

Mae'r Eisteddfod hefyd wedi cadarnhau fod cyfarfod “adeiladol” wedi bod rhwng y corau a’r Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf. 

“Gofynnodd y corau i’r Eisteddfod ystyried ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan er mwyn rhoi cyfle i’r trafodaethau barhau,” medden nhw.

Mae’r Eisteddfod wedi ychwanegu pythefnos a hanner i’r cyfnod cofrestru, a’r dyddiad cau newydd ydi nos Fercher 17 Mai. 

Mae’r Eisteddfod wedi cytuno i ystyried dau gynnig gafodd ei drafod yn y cyfarfod, gan ddweud fod  “ymarferiad yn digwydd ar hyn o bryd i weld a oes modd eu gweithredu”. 

Doedd yr Eisteddfod ddim yn fodlon datgelu wrth Newyddion S4C yr hyn oedd dan ystyriaeth, gan ddweud y bydd y “drafodaeth yn parhau rhwng y corau a’r Eisteddfod, ac nid drwy’r wasg a’r cyfryngau”. 

‘Dim sôn’

Ond mae rhaglen Newyddion S4C wedi clywed pryderon fod y newidiadau wedi eu cyflwyno yn rhy gyflym, heb drafodaeth agored.

Ymysg y rheini sy’n “drist” ynglŷn â’r newidiadau mae Hywel Wyn Edwards, cyn-drefnydd yr Eisteddfod am 20 mlynedd hyd at 2013.

Mae’n dadlau nad yr hyn sy’n cael ei roi gerbron ar gyfer Steddfod Llŷn ac Eifionydd ydi’r Eisteddfod oedd pobol yr ardal wedi ei ddisgwyl.

“Mae’n swnio yn debyg i mi eu bod nhw ishe torri asgwrn cefn yr eisteddfod a dweud y gwir ac maen nhw’n dweud bod ishe i bob adran fod yr un fath,” meddai.

Ei bryder meddai, fel nifer, ydi fod y trefnwyr yn anghofio mai gŵyl gystadleuol ydi’r Eisteddfod Genedlaethol. 

“Mae’r cyfan wedi cael ei wneud yn sydyn ar y naw,” meddai.

“Mae’r adolygiad annibynnol yma wedi cael ei baratoi. Mae 'na argymhellion ar ddiwedd yr adolygiad ond fedrai yn fy myw weld sut y mae’r holl fusnes corawl yma wedi codi achos does dim son am hynny yn yr argymhellion.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.