Rishi Sunak ac Andrew RT Davies yn gwrthod unrhyw ddatganoli pellach i Gymru

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak ac arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud na ddylai rhagor o rymoedd ddod i Gymru.
Dywedodd Rishi Sunak nad oedd pobol am weld rhagor o rymoedd yn dod i Gymru ond yn hytrach am weld y Llywodraeth yng Nghymru yn canolbwyntio ar eu blaenoriaethau nhw.
“Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn gweld diwygio cyfansoddiadol fel blaenoriaeth ar hyn o bryd,” meddai wrth ITV Cymru.
“Maen nhw am i ni hanner chwyddiant, creu swyddi, lleihau dyled ac atal y cychod.
“Dyna fy mlaenoriaethau i a dyna flaenoriaethau’r bobl.”
‘Camgymeriadau’
Yn ei araith ef yn y gynhadledd dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y dylai Rishi Sunak wrthod unrhyw ddatganoli pellach i Gymru.
Dywedodd y byddai rhagor o bwerau datganoledig yn tynnu sylw'r Llywodraeth Llafur oddi ar faterion pwysig yng Nghymru.
"Pan mae Llafur a'r cenedlaetholwyr yn galw am fwy o bwerau datganoledig i Gymru - ac mae hynny'n anochel - peidiwch â bod ofn i ddweud na," meddai.
"Y peth olaf mae Llafur ei angen yw mwy o bethau i dynnu eu sylw. A byddai datganoli yn sicr yn gwneud hynny."
Tynnodd sylw at amseroedd aros y GIG, y diffyg ymchwiliad Covid i Gymru yn unig a diffyg gwelliannau i drafnidiaeth.
"Mae Cymru yn ysu am hewlydd newydd, ac mae ein canlyniadau addysg ymysg y gwaethaf yn Ewrop,” meddai.
"Dylai gweinidogion fod yn treulio bob eiliad o bob dydd yn ceisio trwsio'r pethau hyn. Mae eu camgymeriadau wedi rhoi pwysau anferthol ar ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr."
Llun gan PA / Andrew Milligan.