Undeb gweithwyr y rheilffyrdd yn cyhoeddi streic ar ddiwrnod Eurovision ar 13 Mai

Bydd streic yn cael ei chynnal gan weithwyr y rheilffyrdd ar 13 Mai, sef diwrnod y bydd cystadleuaeth Eurovision yn cael ei chynnal yn Lerpwl, ar ôl i undeb RMT wrthod y cynnig tâl diweddaraf.
Bydd gweithwyr o 14 cwmni sy’n rhedeg gwasanaethau trên, gan gynnwys Avanti West Coast a Great Western Railway sydd yn gweithredu yng Nghymru, yn cadw draw o’u gwaith wrth i’r anghydfod barhau.
Roedd aelodau’r RMT wedi bod yn ystyried y cynnig diweddaraf gan y cyflogwyr, y Grŵp Dosbarthu’r Rheilffyrdd (RDG), oedd yn cynnwys codiad o 5%, ar yr amod y byddai’r RMT yn ildio’u hawl i gynnal streic yn y dyfodol.
Penderfynodd arweinwyr yr undeb ddydd Iau i wrthod y cynnig, gan gyhoeddi 24 awr o weithredu diwydiannol ar ddydd Sadwrn 13 Mai.
Daw hyn ar ôl i undeb gyrrwyr trenau, Aslef, gyhoeddi y bydd aelodau’r undeb yn cynnal gweithredu diwydiannol ar 12 a 13 Mai, yn ogystal â diwrnod Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr, ar 3 Mehefin.