Newyddion S4C

'Mae cywilydd yn baglu pobl yn y diwedd': Angen 'normaleiddio' trafod hunanladdiad

'Mae cywilydd yn baglu pobl yn y diwedd': Angen 'normaleiddio' trafod hunanladdiad

NS4C 28/04/2023

“Ma’n agwedda' ni at hunanladdiad yn ofnadwy o chwithig,” meddai dynes o Fôn sydd am weld cymdeithas yn fwy agored wrth drafod iechyd meddwl a hunanladdiad.

Fe wnaeth mam Elen Ifan gymryd ei bywyd ei hun pan oedd Elen yn 14 oed, ac fe wnaeth partner Elen gyflawni hunanladdiad yn ei 20au, meddai.

Ac mae Elen, sydd bellach yn 48 oed, wedi dod yn agos at ddiweddu ei bywyd ei hun ddwywaith yn y gorffennol, meddai.

“Dwi’n meddwl bod iechyd meddwl yn broblem i ni gyd ar un pwynt yn ein bywydau a dwi wedi profi effaith hunanladdiad a’r galar yn fy mywyd i ac wedi mynd trwy ddibyniaethau gwahanol,” meddai Elen wrth Newyddion S4C.

Image
Elen Ifan a'i mam
Elen Ifan a'i mam

Cafodd 5,583 o hunanladdiadau eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn 2021 yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mae Elen wedi gweithio yn galed i adfer ei hiechyd meddwl ac mae hi bellach yn rhedeg ei chwmni ei hun, ‘Hafod Holistics’ sy’n cynnig amrywiaeth o wahanol therapiau.

Mae merched 24 oed neu iau wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y gyfradd hunanladdiad ers dechrau cofnodi yn 1981, ac mae Elen am i bobl ddysgu siarad am iechyd meddwl o oed ifanc.

“Jyst ychydig cyn i mam farw nes i gymryd gorddos fy hun ac o’n i yn yr ysbyty am wythnos," meddai.

"Ac wedyn ges i fy rhoi mewn uned breswyl ym Mae Colwyn. Bythefnos wedyn fu fuodd mam farw.

“Mae yna stigma mawr am hunanladdiad, yn grefyddol da ni’n cael ein hel i uffern, yn gyfreithiol da ni’n mynd i gael ein harestio ac yn feddygol da ni’n cael ein rhoi ar dabledi neu ein rhoi mewn ysbyty.

"Ac yn gymdeithasol mae pawb yn meddwl bo rhywun yn hunanol.

“Felly mae’r cywilydd mawr ma’ sydd o gwmpas iechyd meddwl ar ffordd 'da ni’n meddwl am farwoldeb ein hunain, does 'na ddim gofodau saff i drafod.”

'Normaleiddio'

Byddai siarad am iechyd meddwl o oed cynradd yn fanteisiol i gymdeithas gyfan, yn ôl Elen.

“Dwi ddim yn meddwl bod ni’n delio efo fo mewn cymdeithas," meddai. "Ma’n agwedda' ni at hunanladdiad yn ofnadwy o chwithig.

“Mae angen creu llefydd saff i bobl allu siarad am hunanladd, lle 'da ni’n meithrin sgiliau hunan ddelwedd, hunan gariad, hunan barch.

“Lle i gael trafodaeth agored a normaleiddio fo, achos ma’ cywilydd yn baglu pobl yn y diwedd.”

Wedi cyfnodau anodd iawn yn ei bywyd, mae Elen nawr yn nain i bedwar ac mae hi’n benderfynol o weld y sgwrs yn newid. 

Image
Elen Ifan a'i theulu
Elen Ifan a'i theulu

“Swn i wedi safio fy hun o lot o boen os fyswn ni wedi cael fy nysgu i siarad yn agored yn ifanc, hyd yn oed os fysa ysgolion yn neud myfyrdod yn y gwasanaeth yn y bore, neu gynnig yoga.

“Mae o yn gonsyrn mawr, achos dwi’n nain i bedwar rŵan a dwi isio dyfodol iddyn nhw lle mae pobl yn delio efo iechyd meddwl.

“Mae rhaid ni dderbyn, mae rhai dyddiau yn gallu bod yn anobeithiol i bobl, felly mae gwir angen i ni newid ein hagweddau tuag at hyn a llai o’r beirniadu ‘ma.”

Mae’r elusen iechyd meddwl, Samariaid Cymru yn gweithio yn agos gydag ysgolion ar draws y  wlad ac fel rhan o’i strategaeth ar gyfer 2022/27 maent yn ceisio cydweithredu pellach dros y blynyddoedd nesaf i gyrraedd y rhai sydd angen cefnogaeth.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan S4C.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.