Farsiti Cymru: Dathlu 25 mlynedd o gystadlu rhwng prifysgolion Caerdydd ac Abertawe

Mae pencampwriaeth Farsiti Cymru, yr ŵyl chwaraeon rhwng prifysgolion Abertawe a Chaerdydd, yn dathlu chwarter canrif ers ei sefydlu eleni.
25 mlynedd ers y gêm rygbi gyntaf i ddynion ym Mharc yr Arfau yn 1997, mae'r ddwy brifysgol yn herio ei gilydd mewn nifer o gampau yr wythnos hon, a hynny yng Nghaerdydd eleni.
Y gêm rygbi ar ddiwedd y prynhawn yw uchafbwynt dydd Mercher. Abertawe yw deiliaid tlws rygbi’r Farsiti ar ôl iddyn nhw ddod yn fuddugol y llynedd, 20-13 yn y Stadiwm Swansea.com.
Mae Gwilym Evans yn flaenasgellwr i Gaerdydd ac yn edrych ymlaen at chwarae yn y bencampwriaeth am yr ail dro.
“Nes i chwarae blwyddyn ddiwethaf ond wrth gwrs roedd hynny i ffwrdd yn Abertawe, felly doedd y profiad o farsiti ddim yr un peth fel rydych yn cael gartref, felly rwy’n edrych ymlaen at wylio rhai o’r chwaraeon eraill a chael mwy o brofiad o bawb yn y ddinas.
"Ni'n gobeithio cael un nôl arnyn nhw eleni.
"Mae pob gêm darbi yn agos. Er bod Abertawe yn nawfed yn y gynghrair y flwyddyn yma, maen nhw pob amser yn troi lan am Gaerdydd felly rwy’n disgwyl gêm agos bydd yn mynd at y diwedd.
“Mae’r bois yn dweud y gêm yw dydd gorau’r flwyddyn ac rwy’n cytuno. Ni’n gwybod bod dathlu yn well amser ni’n ennill, ni’n cofio’r siom o golli blwyddyn ddiwethaf. Er oedd y noson hynny’n noson dda bydd ennill yn ei gymryd i lefel uwch.”
"Mae'n meddwl lot i ni"
Mae’i ffrind Iwan Johnes, sydd fel Gwilym yn gyn disgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, yn dweud fod tîm Prifysgol Abertawe yn barod am y gêm fawr.
"Mae'n meddwl lot i ni, dyna’r unig beth mae pobl wedi bod yn siarad am yn ystod y penwythnos diwethaf rownd y brifysgol a'r garfan.
"Dim ots beth yw'r canlyniad, y profiad o chwarae ym Mharc yr Arfau pryd bydd y dorf yn eu miloedd, dyna beth mae pawb yn edrych ymlaen am.
"Cyrraedd fynna, y gêm, canu'r anthem - i'r bois Cymraeg - mae'n meddwl lot i ni."
I'r ddau dîm, mae sicrhau buddugoliaeth a thlws rygbi'r Farsiti yn bwysicach na'r wobr fawr, sef Tarian y Farsiti, sy'n cael ei roi i'r brifysgol â'r nifer fwyaf o bwyntiau ar draws bob camp.
"Hwn yw'r main event"
Ychwanegodd Iwan: "Dim cwestiwn about it. Rygbi sy'n cael 10,000 o bobl i wylio ni ar ddiwedd y dydd, does dim un o'r chwaraeon eraill sy'n atynnu gymaint o dorf â hwnna. Felly well gen i'r rygbi heb os nac oni bai."
Ond mae Gwilym yn hyderus mai Caerdydd fydd yn ennill: "Mae pawb yn dod i wylio'r rygbi yn y diwedd, felly hwn yw'r main event, rwy'n siŵr bydd y chwaraeon eraill yn neud yn dda iawn.
"Ni wedi ennill y tlws gyfan nifer o weithiau, sai'n credu bydd hynny'n broblem fawr."
Yng nghystadleuaeth BUCS dynion eleni, gorffennodd Abertawe yn nawfed yn y tabl, tu allan i'r gemau ail gyfle ond cyrhaeddodd Caerdydd y rownd gynderfynol cyn colli 32-22 i Gaerwysg.
Mae'r timoedd wedi cwrdd ddwywaith yn barod eleni, gan ennill un gêm yr un. Roedd y ddwy gêm yn gystadleuol iawn, gydag uchafswm o dri phwynt yn gwahanu'r timoedd.
Lluniau: Asiantaeth Huw Evans