Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Sul, 23 Mai.
Preswylwyr cartrefi gofal yn byw mewn 'carchar'
Mae gwraig i ddyn sy’n byw a dementia mewn cartref gofal wedi dweud fod rheolau sy’n cyfyngu ymweliadau yn “greulon”, gan fod ei gwr heb fod allan o’r cartref ers 18 mis. Mae Prydwen Elfed-Owens yn credu dylai’r rheolau gael eu llacio gan ei bod hi a’i gwr, Tom, wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i gartrefi gofal “hwyluso ymweliadau dan do”, ond bod cyfrifoldeb ar gartrefi i warchod preswylwyr ac ymwelwyr.
Brechlynnau yn ‘hynod effeithiol’ wrth ymladd amrywiolyn India
Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cyhoeddi fod y brechlynnau sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig yn “hynod effeithiol” wrth ymladd amrywiolyn India o feirws Covid-19. Dywed The Telegraph fod gwyddonwyr wedi cadarnhau fod dau ddos o Pfizer/BioNTech neu AstraZeneca bron mor effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn India ag oedden nhw yn erbyn yr amrywiolyn Caint.
Dyn wedi marw wedi digwyddiad ‘difrifol’ yng Nghei Connah
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau fod dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad ar ffordd y Doc, Cei Connah, brynhawn ddydd Sadwrn. Mae tri o bobl wedi cael eu harestio, gyda’r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un all helpu gyda’r ymchwiliad.
Cummings: ‘Imiwnedd torfol oedd cynllun gwreiddiol' y llywodraeth
Mae cyn-brif ymgynghorydd y Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi dweud mai bwriad gwreiddiol Llywodraeth y DU oedd adeiladu imiwnedd torfol, gan adael i’r feirws ledaenu trwy’r gymdeithas. Golwg360 sy’n adrodd ddiwrnodiau cyn i Mr Cummings gyflwyno tystiolaeth mewn ymchwiliad i ymateb y llywodraeth i’r pandemig.
Pandemig wedi ‘dangos anghyfartaledd’ mewn cymdeithas
Mae’r darlithydd cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor wedi dweud fod y pandemig wedi ‘dangos anghyfartaledd’ mewn cymdeithas wrth i’r newid ‘aruthrol’ effeithio sawl agwedd o’n bywydau. Dywed Dr Cynog Prys fod y cyfoethog wedi cae; eu ‘hynysu’ yn ystod y pandemig, a’r bobl fwy dosbarth gweithiol wedi gorfod wynebu ‘trawma rheng flaen’ Covid-19.