Newyddion S4C

Preswylwyr cartrefi gofal yn byw mewn 'carchar'

Newyddion S4C 23/05/2021

Preswylwyr cartrefi gofal yn byw mewn 'carchar'

Yn ôl un ddynes o Sir Ddinbych mae rheolau sy'n cyfyngu ar ymweld â chartrefi gofal yn "greulon" ac yn golygu fod preswylwyr yn byw “mewn carchar”.

Mae gŵr Prydwen Elfed-Owens yn byw gyda dementia yng nghartref gofal The Old Deanery yn Llanelwy. 

Dyw ei gwr Tom heb fod allan o'r cartref ers 18 mis. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl i ddarparwyr cartrefi gofal “hwyluso ymweliadau dan do” o fewn y canllawiau.

Mae Ms Elfed-Owens a’i gŵr wedi cael dau ddos yr un o'r brechlyn, ond dim ond dau ymweliad byr dan do y mae hi wedi'i gael i'w weld. 

“Mae o'n greulon, yn fy nhyb i ma' nhw mewn carchar,” meddai.

“Dwi'n falch iawn bod o'n y lle iawn ar yr amser iawn, ond rŵan mae o yn mynd yn broblemus, yn greulon, a dwi'n meddwl fod angen symud ar hynny erbyn hyn.

“Un o'r pethe 'da ni yn i glywed ydy wrth gwrs ydy bo pethe yn symud ymlaen ac yn llacio.

 “Ma' nhw'n swnio'n dda, ond yn weithredol dydy nhw ddim.” 

Image
Prydwen yn siarad gyda'i gŵr

Mae canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ddau berson dynodedig wneud ymweliadau dan do ar yr un pryd. 

Gall ymwelwyr dynnu gorchuddion wyneb unwaith y byddant wedi'u heistedd, os ydynt wedi ymbellhau'n gymdeithasol oddi wrth breswylwyr ac mewn ystafell wedi'i hawyru'n dda. 

Ond mae gan ddarparwyr gofal iechyd hyblygrwydd i wyro oddi wrth y canllawiau. 

Mewn ymateb i'r pryderon dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl ac yn annog pob darparwr cartrefi gofal i hwyluso ymweliadau dan do.

“Fel y nodir yn ein canllawiau, dylai cartrefi gofal wneud hyn mewn ffordd sy'n lleihau'r risg i breswylwyr ac ymwelwyr yn seiliedig ar asesiad risg o amgylchiadau'r cartref gofal unigol, a'r bobl sy'n byw yno." 

Dywedodd llefarydd ar ran Fforwm Gofal Cymru bod y canllawiau'n glir, ac er eu bod nhw'n awyddus i berthnasau gael ymweld mae'n rhaid iddyn nhw hefyd asesu'r risgiau.

Gwrthododd cartref gofal The Old Deanery wneud sylw ar y mater.

 ‘Marw o dor calon’

 Hoffai Prydwen Elfed-Owens wybod faint o bobl sydd wedi marw mewn cartrefi gofal o galon doredig yn ystod y pandemig.

“Faint o fobol mewn cartrefi gofal sydd wedi marw o Covid?

“Faint o fobol oedd yn mynd i farw beth bynnag oherwydd oedd ganddyn nhw rhywbeth mawr yn bod arnyn nhw, ag oedd eu bywyd nhw mewn cwestiwn beth bynnag?

“A'r peth arall ydy, a hwn sy'n bwysig. Faint o fobol sy' di marw o dor calon? 

“Oherwydd mae 'na nifer yn y cartref yna, lle mae fy ngŵr i, wedi mynd i'w gwlâu a ma' nhw di rhoi fyny, a dwi'n meddwl fod hwnna’n fwy o bandemig na gwir ydy Covid.

“Dio ddim yn deall pam dwi ddim yn gallu mynd i fewn, a rŵan mae o wir yn panicio a felly ymhen dipyn os nag ydy rywun yn gneud rhywbeth fydd o hefyd wedi mynd i'r pydew, a dydw i ddim yn hapus ynglŷn â hynny.”

Disgwylir i'r cyfyngiadau ar nifer o ymwelwyr a chartrefi gofal gael eu codi ar Fai 24. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.