Newyddion S4C

Pandemig wedi ‘dangos anghyfartaledd’ mewn cymdeithas

23/05/2021

Pandemig wedi ‘dangos anghyfartaledd’ mewn cymdeithas

Mae’r pandemig wedi cael effaith digynsail ar ein bywydau o ddydd-i-ddydd.

Gyda threfn newydd ar fywyd, mae’r cyfnod wedi cyflwyno sawl cwestiwn am sefyllfa’r gymdeithas fel y mae hi.

Yn ôl Dr Cynog Prys, sydd yn ddarlithydd Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor, mae’r newid “aruthrol” wedi effeithio sawl agwedd, gan gynnwys ein ffyrdd o weithio, yr economi a thechnoleg.

“Mae hwn yn gyfnod ofnadwy o ddiddorol i gymdeithasegwyr edrych arno fo,” dywedodd Dr Prys.

“Dwi'm yn meddwl ein bod ni wedi gweld newid mor aruthrol â hyn mewn cyfnod mor fyr ers wedi’r cyfnod ella'r Ail Ryfel Byd o bosib neu hyd yn oed y Chwyldro Diwydiannol cyn hynny lle fuodd 'na newid mawr ar gymdeithas mewn amser cymharol fyr.

“'Da ni wedi gweld modelau gwaith, modelau byw, pobol yn newid yn sylweddol iawn. Felly, dwi'n meddwl bod hwn yn rhoi digon i ni edrych arno fo fel cymdeithasegwyr.”

Er hyn, yn ôl Dr Prys, mae’r pandemig hefyd wedi dangos anghyfartaledd yng nghymdeithas, yn enwedig yn sectorau gwaith:

“Dydi pawb heb di profi'r pandemig yn yr un un ffordd a'i gilydd,” ychwanegodd.

“Dwi'n meddwl i nifer o bobol sydd efo swyddi sy'n talu'n weddol dda,  sy'n gweithio ar gyfrifiaduron - ella swyddi sy' 'sa chi'n ystyried yn 'ddosbarth canol', ella bod y ffaith bo' nhw 'di cael y cyfla i fod adra, gweithio o adra, ella bo' hynna 'di bod yn reit braf i nifer o bobl a 'di cynnig modelau gwaith lot brafiach, lot fwy dymunol i bobol.

“Felly, mae 'na betha da 'di dod yn codi allan o hyn, ond dwi'n meddwl be' sy'n bwysig meddwl amdano fo ydi bod pawb ddim wedi profi petha mor bositif yn ystod hwn.

“'Da ni'n gweld mae pobol mewn swyddi bregus, cyflogau isel, contract dim oriau neu 'zero hour contract' - mae 'na lot o bobol wir wedi stryglan, wedi cael amser caled iawn o ganlyniad i be' sy 'di digwydd.”

Ac wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio yng Nghymru, nid oes sicrwydd ar sut fydd cymdeithas yn newid wedi’r cyfnod hwn.

Dywedodd Dr Cynog Prys: “Dwi'n meddwl bod pawb heb 'di profi'r cyfnodau anodd yn ystod Covid yn yr un un ffordd felly.

“Dwi'n meddwl yn ystod ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd pawb i raddau helaeth wedi bod drwy'r un math o drawma, oedd o'n gyffredin ar draws cymdeithas i raddau helaeth iawn.

“Yn fan hyn - wel, mae pobol gyfoethog 'di cael eu hynysu a'r bobol bwerus a chyfoethog 'di cael eu hynysu o lot o'r trawma rheng flaen yma. Felly, dwi ddim yn siŵr os 'di nhw'r un mor awyddus i adael fynd o'i sefyllfa nhw a'u pŵer o fewn cymdeithas a thrio rhannu adnoddau cymdeithas allan mewn ffordd fwy teg a teg i bawb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.