Cummings: ‘Imiwnedd torfol oedd cynllun gwreiddiol' y llywodraeth
23/05/2021
Mewn ymosodiad o’r newydd ar y Prif Weinidog, Boris Johnson, mai ei gyn-brif ymgynghorydd wedi dweud mai bwriad gwreiddiol Llywodraeth y DU oedd adeiladu imiwnedd torfol gan adael i’r feirws ledaenu trwy’r gymdeithas.
Mae Golwg360 yn adrodd fod Dominic Cummings wedi dweud fod y llywodraeth wedi cefnu ar hyn ar ôl derbyn rhybuddion yn erbyn y syniad.
Mae Mr Cummings yn paratoi i gyflwyno tystiolaeth mewn ymchwiliad i ymateb y llywodraeth i’r pandemig yr wythnos yma.