Newyddion S4C

Bale yn ystyried ymddeol ar ôl gorffen ei gytundeb â Real Madrid

22/05/2021
Gareth Bale

Mae Gareth Bale yn ystyried ymddeol o bêl-droed ar ddiwedd ei gytundeb gyda Real Madrid yn ôl y papur Sbaeneg, AS. 

Mae Bale ar fenthyg gyda Tottenham Hotspurs ar hyn o bryd, a bydd yn dychwelyd i Fadrid ar ddiwedd y tymor.

Yn ôl adroddiadau, dyw’r Cymro heb guddiad y ffaith gyda’i gyd-chwaraewyr ei fod yn bwriadu ymddeol o’r gêm ar ddiwedd ei gytundeb. 

Fe fydd Bale yn 33 mlwydd oed pan fydd ei gytundeb yn dod i ben ym Madrid. 

Dywed papur AS: “Nid yw’r chwaraewr 31 oed wedi gwneud unrhyw gyfrinach yn yr ystafell wisgo ei fod yn bwriadu gwthio ei ffitrwydd i’r eithaf, gan roi Pencampwriaeth Ewrop yn gyntaf bob amser, ac nid yw hefyd wedi gwneud unrhyw gyfrinach o’i fwriad i ddychwelyd i Real Madrid yr haf hwn i gwblhau'r flwyddyn sy'n weddill o'i gontract yn stadiwm newydd y Santiago Bernabéu, cyn ymddeol o bêl-droed.

“Felly am y tro, dyw meddwl Bale ddim yn canolbwyntio ar antur arall pan fydd ei amser gyda Madrid yn dod i ben, yn 33 oed. 

“Amser a ddengys os fydd Bale yn hongian ei esgidiau yn 2022, ond beth bynnag a ddigwyddith, fe fydd yn canolbwyntio’n gyntaf ar ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth yr Euros y mis nesaf.” 

Dychwelodd Bale i Tottenham yn y gobaith o sicrhau mwy o amser ar y cae cyn pencampwriaeth yr Euros, ar ôl perthynas anodd gyda’i reolwr, Zinedine Zidane, yn Sbaen. 

Ond ar ôl dioddef anaf, dyw e heb ymddangos ar y cae gymaint ag yr oedd wedi’i obeithio, gyda rheolwr Tottenham, Ryan Mason, yn cadarnhau ei fod yn chwarae pan mae’n siwtio ei iechyd.    

Mae Bale yn rhan o garfan Cymru a fydd yn herio’r Swistir yn Stadiwm Olympic, Baku ar 12 Mehefin yn eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth UEFA Euro 2020.  
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.