Ffrainc yn atal addysgu mewn ieithoedd brodorol

Mae deddfwriaeth a fyddai wedi rhoi'r hawl i ddisgyblion dderbyn y rhan fwyaf o'u haddysg trwy gyfrwng ieithoedd brodorol wedi cael ei wrthod gan Gyngor Cyfansoddiadol Ffrainc.
Dywed Golwg360 fod y cynllun arfaethedig i ganiatáu addysgu trwy'r Llydaweg, y Fasgeg a'r iaith Gorsicaidd wedi cael ei ddynodi yn "anghyfansoddiadol".
Mae sillafiadau brodorol mewn dogfennau swyddogol hefyd wedi cael eu gwahardd.