Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Sadwrn, 22 Mai.
Anhrefn Abertawe: Rhagor o heddlu ar batrôl
Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau y bydd mwy o swyddogion ar batrôl yn Abertawe wedi’r anhrefn yno nos Iau a welodd saith o swyddogion yn cael eu hanafu. Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol y llu wedi disgrifio’r golygfeydd fel “gwbl annerbyniol”, gan apelio am wybodaeth gan unrhyw un all helpu gyda’r ymchwiliad.
Pennaeth y BBC: ‘Angen dysgu gwersi’ wedi’r ymchwiliad i gyfweliad Tywysoges Diana
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, wedi ysgrifennu llythyr at staff y BBC yn dweud fod gwersi angen eu dysgu yn dilyn ymchwiliad Panorama i’r ffordd wnaeth Martin Bashir sicrhau cyfweliad gyda’r Dywysoges Diana. Daeth adroddiad annibynnol i’r casgliad fod Bashir wedi ymddwyn mewn ffordd “dwyllodrus”.
Covid-19: Yr Almaen yn atal teithwyr o’r Deyrnas Unedig
Mae’r Guardian yn adrodd mai dim ond dinasyddion Almaeneg sy’n teithio o’r Deyrnas Unedig i’r Almaen fydd yn cael mynediad i’r wlad o ddydd Sul ymlaen. Daw’r newid wrth i gorff Iechyd Cyhoeddus yr Almaen ddynodi'r Deyrnas Unedig fel ardal ag y gallai fod o bryder o ran amrywiolion Covid-19.
Protestwyr hawliau anifeiliaid yn rhwystro stordai McDonalds
Mae protestwyr hawliau anifeiliaid wedi bod yn rhwystro pedwar o stordai McDonalds fel rhan o ymgyrch i fynnu fod y cwmni yn symud i fod yn gwbl lysieuol erbyn 2025. Mae’r Mirror yn adrodd y gallai hyn achosi prinder cyflenwad mewn 1,300 o fwytai. Y gred yw bod yr ymgyrchwyr yn bwriadu rhwystro’r safleoedd am o leiaf 24 awr.
Yr Elyrch yn wynebu Barnsley eto yn y gemau ail gyfle
Mae Abertawe yn wynebu Barnsley yn ail gymal gêm gynderfynol y gemau ail gyfle. Fe fydd 3,000 o gefnogwyr cartref yn cael mynychu’r gêm yn Stadiwm Liberty, gyda’r Elyrch yn gobeithio manteisio ar y gôl o fantais sydd ganddyn nhw dros Barnsley.