Newyddion S4C

Cyfweliad y Dywysoges Diana: Tony Hall yn ymddiswyddo o’r Galeri Cenedlaethol

The Guardian 22/05/2021
Yr arglwydd tony hall

Mae Tony Hall wedi ymddiswyddo fel cadeirydd y Galeri Cenedlaethol yn dilyn ymchwiliad i gyfweliad BBC Panorama gyda’r Dywysoges Diana yn 1995.

Roedd yr Arglwydd Hall yn gyfarwyddwr newyddion y BBC a materion cyfoes yn ystod cyfnod cyfweliad Martin Bashir gyda’r Dywysoges, gyda’r adroddiad yn dod i’r casgliad fod Mr Bashir wedi sicrhau’r cyfweliad trwy ddulliau “twyllodrus”.

Cafodd yr Arglwydd Hall ei feirniadu’n llym am ei oruchwyliaeth o ymchwiliad mewnol i’r cyfweliad mewn adroddiad annibynnol gan yr Arglwydd Dyson.  

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd y byddai ei bresenoldeb yn y galeri wedi “tynnu sylw”.

Mae olynydd Arglwydd Hall, Tim Davie, wedi ysgrifennu llythyr at staff y BBC yn dweud fod gwersi angen eu dysgu yn dilyn ymchwiliad Panorama i’r ffordd wnaeth Martin Bashir sicrhau cyfweliad gyda’r Dywysoges Diana. 

Dywed Sky News fod Mr Davie wedi dweud fod pobl o fewn y BBC yn teimlo’n hynod siomedig o ddarganfod canfyddiadau’r adroddiad gan Lord Dyson.

Mae Mr Davie yn mynd ymlaen i egluro sut mae’r adroddiad yn “arbennig o ofidus” o ystyried ymrwymiad y BBC i newyddiaduraeth deg ag onest. 

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.