
Tristwch gweithwyr ym Môn cyn i ffatri 2 Sisters gau ei drysau am y tro olaf

Tristwch gweithwyr ym Môn cyn i ffatri 2 Sisters gau ei drysau am y tro olaf
Fe fydd hi'n ddiwedd cyfnod i gannoedd o weithwyr ar Ynys Môn ddydd Gwener, wrth i ffatri 2 Sisters yn Llangefni gau ei drysau am y tro olaf.
Daeth cadarnhad ddiwedd mis Chwefror nad oedd unrhyw gynlluniau pendant gan y cwmni i gadw eu ffatri ar agor, a’u bod yn symud ymlaen gyda chynlluniau i roi’r gorau i gynhyrchu ar y safle.
Daeth y newyddion fel ergyd drom i lawer iawn o'r gweithwyr, gyda llawer yn poeni y bydd dod o hyd i swyddi newydd yn her.
Wrth i weithwyr baratoi am eu diwrnod olaf ddydd Gwener, mae cyn-weithwyr a gweithwyr presennol y safle'n drist fod y ffatri'n cau.
Fe ddechreuodd Pat Graham weithio yn y ffatri pan agorwyd y safle yn 1971 gan gwmni J.P Wood o Sir Amwythig. Mae hi’n cofio dyddiau cynnar y ffatri gyda gwên:
“Roedden ni’n cael lot fawr iawn o hwyl a sbri efo ffrindiau yno,” meddai.
A hithau bellach wedi ymddeol o’r ffatri ers pum mlynedd, doedd clywed fod y lle yn cau ddim yn sioc llwyr iddi.

Dywedodd y cwmni yn gynharach yn y flwyddyn bod adolygiad o’r safle wedi dangos nad oedd y ffatri bellach yn gynaliadwy, gan arwain at golli 700 o swyddi.
'Bechod mawr'
Mae Des Edwards yn gweithio ar shifftiau glanweithdra yn y ffatri, ac mae'n "bechod" bod y ffatri yn cau, meddai.
“Dweud y gwir does gynno chi llawer ddim byd ar yr ynys yma. Grandchildren yn tyfu fyny, ma' angen meddwl am reiny.
“Sa ddiawl o ddim byd ar yr ynys iddyn nhw”.
“Mae’n bechod deud y gwir bod y lle’n cau rwan. Ro’dd fama’n cyflogi lot o bobl lleol ar yr ynys a rwan s’dim uffarn o ddim byd yma. Mae’n bechod, bechod mawr.
“Dwi di trial am dwy neu dair (swydd) ond does na’m llawer fedrai wneud.
“Dwi’n yn nabod lot oedd wedi bod yno o’r ysgol a ddim yn dallt dim byd arall mond gweithio mewn ffatri a mae rheiny yn eu chwedegau rwan.
“I reiny bod allan o waith, chi’n meddwl pwy sy’n mynd i gymryd rhywun yn ei chwedegau?”
“I’r hogia ifanc ma rhaid iddyn nhw deithio tu allan i Sir Fôn. Ond dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny - ma' rhaid nhw gael car. Ma' rhan fwyaf ohonyn nhw tydyn nhw ddim hefo car," ychwanegodd.
Pan gyhoeddodd cwmni 2 Sisters eu bwriad i gau'r safle, dywedodd llefarydd fod gan y cwmni ddyletswydd i barhau’n gystadleuol ac i ddiogelu eu busnes ehangach.