Cyflwynydd podlediad Radio Aryan yn dweud 'nad oedd yn hiliol'
Mae cyflwynydd podlediad sydd wedi’i gyhuddo o ysgogi casineb hiliol wedi honni nad oedd cynnwys ei sioe yn hiliol.
Mae James Allchurch, 51 oed o Sir Benfro, o flaen ei well yn Llys y Goron Abertawe wedi'i gyhuddo o 15 cyhuddiad o ddosbarthu deunydd sain i ysgogi casineb hiliol dros gyfnod o ddwy flynedd.
Disgrifiwyd Radio Aryan, sydd wedi’i ailenwi’n Radio Albion ers hynny, fel “podlediad hynod hiliol, gwrthsemitaidd a gwyn ei natur” gan yr erlyniad.
Wrth roi tystiolaeth ddydd Gwener, dywedodd Allchurch ei fod yn anghytuno â’r term hiliol a dywedodd wrth y llys ei fod yn credu “dylen ni ddathlu ein gwahaniaethau”.
Honnodd Allchurch nad oedd ei ddefnydd o iaith hiliol wedi’i fwriadu i achosi tramgwydd, a dywedodd ei fod yn credu ei fod yn defnyddio “terminoleg gywir”.
Dywedodd Allchurch wrth y llys ei fod yn anabl ac yn methu â gweithio, a'i fod yn treulio tua 12 awr y dydd yn creu podlediadau ac yn cynnal ei wefan.
Clywodd y llys yn flaenorol bod Allchurch yn derbyn rhoddion trwy daliadau Bitcoin ar ei wefan, ond dywedodd y diffynnydd nad yw'n derbyn cyflog ffurfiol o'r platfform.
'Ethno-genedlaetholwr'
Gan ddisgrifio ei hun i’r rheithgor fel ethno-genedlaetholwr, dywedodd Allchurch: “Yn y bôn, rwy’n genedlaetholwr Prydeinig ond rwyf hefyd yn Ewropeaidd, dyna fy nheulu ehangach. Mae gen i gydymdeimlad â fy nheulu ehangach mewn gwledydd fel America, Awstralia sy’n rhannu’r un llinach â mi.”
Dywedodd Allchurch fod hil ac ethnigrwydd yn “ganolog” i’w farn o'r byd a’i fod yn sefyll wrth ei gred bod “gwahaniaethau ystadegol mesuradwy” rhwng hiliau.
Dywedodd ei fargyfreithiwr Emily Baxter: “Efallai y bydd rhai pobl yn dweud bod siarad am wahaniaethau rhwng hiliau yn y ffordd yna yn hiliol, a fyddech chi’n cytuno â’r term hwnnw?”
Atebodd Allchurch: “Fyddwn i ddim. Dw i’n meddwl y dylen ni ddathlu ein gwahaniaethau.”
Mae 15 pennod o’r podlediad a gyhoeddwyd rhwng 17 Mai 2019 a 18 Mawrth 2021 wedi’u chwarae i’r rheithgor lle mae Allchurch yn trafod pynciau fel mewnfudo, trosedd, ffilm a phynciau eraill.
Yn y recordiadau, mae gwesteion yn aml yn ymuno ag Allchurch gan gynnwys cyd-sylfaenydd National Action, Alex Davies, sydd bellach wedi’i garcharu a’r neo-Natsi Americanaidd Daniel Kenneth Jeffries, oedd yn defnyddio'r llysenw Grandpa Lampshade.
Mae'r achos yn parhau.