Newyddion S4C

Yr actor Dafydd Hywel wedi marw'n 77 oed

23/03/2023
S4C

Mae’r actor Dafydd Hywel wedi marw'n 77 oed.

Yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan a theledu, roedd yn cael ei ystyried yn un o brif actorion Cymru ac yn gymeriad lliwgar, dwfn a di-flewyn ar dafod.

Dechreuodd ar ei yrfa actio ar ddiwedd 60au'r ganrif ddiwethaf, ac fe ymddangosodd mewn nifer fawr o gynyrchiadau ffilmiau a theledu dros y blynyddoedd, gan gynnwys Pobol y Cwm a Stella. 

Yn wreiddiol o'r Garnant, Sir Gaerfyrddin, roedd yr ardal yn agos iawn i'w galon drwy gydol ei oes.

Bu hefyd yn berfformiwr cyson ar lwyfannau Cymru fel actor, ac mewn sawl drama deledu gan gynnwys Y Pris, I Fro Breuddwydion, Rhosyn a Rhith a'r Alcoholig Llon ar S4C.  Chwaraeodd ran Caleb y Twrch yng nghyfres Miri Mawr hefyd.

Image
dafydd hywel

Yn fwy diweddar ymddangosodd yn y gyfres ddwyieithog Un Bore Mercher / Keeping Faith a chyfresi Saesneg The Crown a The Tuckers. 

Pan ddathlodd Pobol y Cwm benblwydd yn 40 oed yn 2014, roedd Dafydd Hywel yn destun rhaglen ddogfen ddi-flewyn ar dafod am ei fywyd.

Yn y rhaglen honno aeth ar daith i rai o'i hoff lefydd, gan gynnwys Cilmeri a phentre Rhos-y-bwlch ger Maenclochog.

Roedd yn weithgar iawn ym myd pantomeim, gan gynhyrchu nifer fawr drwy ei waith gyda chwmni Mega.

Bu'n ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg, gan ymladd dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.

Fe brofodd gyfnodau tywyll yn ei fywyd, gyda gor-ddibyniaeth ar alcohol ac iselder yn gysgod arno am gyfnod.

Roedd yn hoff iawn o fyd y campau gan ymddiddori mewn rygbi, bocsio a chriced.

'Hoffus'

Fe wnaeth yr actores Gillian Elisa rannu’r sgrin gyda Dafydd Hywel sawl gwaith.

Gillan oedd yn portreu Sabrina, sef gwraig cymeriad Dafydd, Jac Daniels yn Pobol y Cwm.

Image
newyddion

“Fi’n cofio gweithio gyda Dafydd Hywel reit nôl yn y 70au, ac mi oeddan ni wedi gweithio gyda’n gilydd am amser hir ac wedi mwynhau,” meddai Gillian wrth Newyddion S4C.

“Roedd Dafydd yn actor o’r radd uchaf, achos oedd o’n un o’r bobl 'ma oedd yn gallu bod yn real ar y sgrin.

“Oedd chemistry ‘da ni ar y sgrîn yn gweithio yn dda iawn, ac o’n i’n ffrindiau mawr. Mae’r newyddion heddi wedi bwrw ni gyd yn fflat achos oedd e yn gymeriad mor hoffus, llawn angerdd, yn gryf am yr iaith, yn gryf am y byd actio yn y Gymraeg.

“Roedd e’n gallu gwneud cymeriadau cHredadwy a chryf fel yn Yr Alcoholig Llon.

“Beth oedd yn hyfryd am Dafydd Hywel oedd bod ‘na lot o hiwmor yna, o’n i’n hoff iawn o’i agwedd e at y byd actio, oedd e’n byw e i fod yn onest.

“Dwi’n meddwl am ei deulu fe heddi, a danfon lot o gariad iddyn nhw.”

Dywedodd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C:

“Gyda thristwch, clywsom am farwolaeth yr actor amryddawn Dafydd Hywel.

"Mae ei gyfraniad i fyd y ddrama yng Nghymru yn aruthrol – ac roedd yn rhan o gynyrchiadau poblogaidd S4C yn actio mewn cyfresi fel Pobol y Cwm, Miri Mawr, Y Pris a Pen Talar ac mewn ffilmiau megis Rhosyn a Rhith, I Fro Breuddwydion a Rhag Pob Brad, i enwi dim ond rhai.

"Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Dafydd yn eu colled, gan ddiolch iddo am ei gyfraniad arbennig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.