Newyddion S4C

itv.jpg

ADHD ac Awtistiaeth: Y menywod sy'n teimlo 'cywilydd cyson' yn y gweithle

ITV Cymru

Mae pobl sy'n byw gydag anhwylderau datblygiadol, gan gynnwys ADHD ac Awtistiaeth yn dweud bod stigma a chamsyniadau ynghylch eu diagnosis wedi’u gadael yn teimlo'n 'llawn cywilydd' yn y gwaith. 

Cafodd Tilly Morgan, 29, o Gaerffili ddiagnosis o ADHD ac Awtistiaeth (AuDHD) a hefyd Dyspracsia y llynedd. Dywedodd Tilly ei bod yn parhau i frwydro yn y gweithle, er bod ei diagnosis yn ei chynorthwyo i ddeall ei hun yn well. 

Dywedodd Tilly: "Mae byw mewn rhwystredigaeth gyda chi'ch hun am 29 mlynedd a pheidio â deall pam na allwch chi weithredu yn y ffordd rydych chi'n teimlo y dylech chi yn flinedig. Mae'n anoddach fyth pan ti'n dechrau deall dy hun ar ôl diagnosis, ond dyw pobl dal ddim yn eich deall. 

"Fy mhrif frwydr yn y gwaith oedd prosesu sain ac roedd weithiau'n arwain at anghofio tasgau neu eu cyflawni’n anghywir oherwydd fy mod yn camddeall cyfarwyddiadau. Dyma'r rheswm cefais i fy niswyddo gan ddau gyflogwr. Yn eu llygaid nhw, o'n i jyst ddim yn gwneud fy ngwaith. Roedd hyn cyn i mi ddeall fy mod i'n niwroamrywiol." 

Wythnos ar ôl ei diagnosis fe gafodd yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "chwalfa awtistig" yn y gwaith. Roedd hi wedi egluro wrth gydweithwyr sut i roi cymorth iddi, ond wnaeth neb wneud hynny. 

Mae'n cofio rheolwr yn troi at gydweithwyr y diwrnod hwn ac yn dweud 'Mae rhywun wedi cynhyrfu’n lân'. 

"Roedd e’n gywilyddus. Mae colli tair swydd mewn chwe mis oherwydd y ffordd rydych chi'n gweithredu yn ddigon anodd, ond wedyn mae cael diagnosis, i'ch cydweithwyr i ddim ond eich stigmateiddio chi’n fwy, yn drist iawn i mi." 

Ddau fis yn ôl fe adawodd Tilly ei swydd oherwydd yr heriau hyn. 

"Dwi wastad llawn cywilydd ac mae hi’n teimlo'n annifyr i ddweud fy mod i, fel person 29 oed sy'n gorfforol iach methu gweithio oherwydd nad ydw i'n gallu ymdopi'n feddyliol mewn byd niwrodebygol." 

Mae data diweddar yn awgrymu bod y rhai sydd ag ADHD ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu diswyddo, gyda chyfraddau uwch o ddiweithdra ymhlith pobl gydag ADHD ac awtistiaeth. 

Cafodd Elena Palmer, 21, o Gasnewydd ddiagnosis o Awtistiaeth ac ADHD (AuDHD) pan oedd hi'n 19 oed. Mae hi'n egluro sut mae blynyddoedd o guddio ei symptomau wedi arwain at brofiadau amhleserus yn y gweithle. 

Mae Elena yn teimlo nad yw ei rheolwyr yn y gwaith wedi cael eu hyfforddi'n briodol i gynorthwyo eu gweithwyr niwroamrywiol yn y dull sydd ei angen. 

"Dyw rheolwyr ddim yn deall ein anhwylderau felly, does neb yn gallu fy nghynorthwyo neu fy nhawelu fi. Dwi’n aml yn ffeindio fy hun yn gorfod eistedd yn y stondin toiled am hanner awr weithiau, bron â rhwygo fy ngwallt mewn rhwystredigaeth."

"Dwi'n meddwl mai'r unig reswm dwi dal yn cael fy nghyflogi yw oherwydd dwi wedi dysgu cuddio fy symptomau. Er bod cuddio'n gwneud fy niwrnod yn fwy llyfn, dwi y tu hwnt i fod yn flinedig erbyn diwedd y dydd." 

Cuddio, neu 'masking'  yw'r term sydd yn disgrifio pan mae pobl yn dysgu, ymarfer, ac yn cyflawni ymddygiadau penodol ac yn atal rhai eraill, er mwyn bod yn debycach i bobl o'u cwmpas.

"Mae deall mwy am fy anhwylder wedi caniatáu i mi weithredu'n well nag ydw i erioed. Mae’r teimladau o gywilydd dwi wedi teimlo am fy hun yn y gweithle am flynyddoedd heb fynd i ffwrdd,” meddai Elena. 

Esboniodd llefarydd ar gyfer y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth: "Gall pob cyflogwr gymryd rhai camau bach sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr, fel cynnig mannau tawel a hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.