Gweithwyr pasbort yn cyhoeddi streic pum wythnos

Bydd mwy na 1000 o weithwyr pasbort yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn mynd ar streic am bum wythnos.
Cyhoeddodd undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) y byddai'r gweithwyr sy'n gweithio yng Nghasnewydd, Durham, Glasgow, Lerpwl, Peterborough a Southport yn mynd ar streic rhwng 3 Ebrill a 5 Mai.
Mae aelodau yn y Swyddfa Basbort yng Ngogledd Iwerddon yn cynnal balot ar hyn o bryd, a bydd yn cau ddydd Sadwrn.
Daw'r gweithredu diwydiannol yn sgil anghydfod yr undeb dros gyflogau, pensiynau a thelerau colli gwaith.
Mae disgwyl iddo hefyd gael effaith sylweddol ar ddarparu pasbortau wrth i'r haf agosáu.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y PCS, Mark Serwotka, fod "gweinidogion wedi methu â chynnal trafodaethau o bwys gyda ni, er gwaethaf dwy streic fawr a gweithredu parhaus am chwe mis.
"Mae'n ymddangos eu bod nhw'n meddwl os ydyn nhw'n anwybyddu ein haelodau, y byddwn ni'n diflannu.
"Mae'n sgandal cenedlaethol ac yn staen ar enw da'r llywodraeth fod gymaint o'i gweithlu yn byw mewn tlodi."