Newyddion S4C

NS4C

Llafur yn addo gwrth-droi toriad yn y dreth pensiynau ar gyfer yr rheini sydd ar gyflogau uchel

NS4C 16/03/2023

Mae'r Blaid Lafur wedi addo gwrth-droi'r toriad yn y dreth pensiynau ar gyfer y rheini ar gyflogau uchel a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddydd Mercher.

Wrth gyflwyno ei gyllideb dywedodd Jeremy Hunt y bydd cynnydd yn y lwfans di-dreth ar gyfer pensiynau o £40,000 i £60,000.

Ond dywedodd Llafur mai dim ond y rheini ar y cyflogau uchaf fydd yn elwa o’r newid.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig mai nod y newid oedd sicrhau nad oedd ymgynghorwyr yn ymddeol yn gynnar o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ond dywedodd canghellor cysgodol yr wrthblaid Rachel Reeves y dylid creu cynllun wedi ei dargedu at weithwyr y GIG yn benodol yn lle.

Fel arall roedd y llywodraeth yn caniatáu i’r “ychydig sy’n hynod o gyfoethog” elwa ar draul pawb arall, meddai.

“Ar adeg pan mae teuluoedd ar draws y wlad yn wynebu biliau uchel, costau sy’n cynyddu a tal wedi rhewi, mae hyn yn rhoi arian i’r bobol anghywir ar yr amser anghywir,” meddai.

“Fe fydd Llywodraeth Lafur yn gwrthdroi’r newid, ac rydyn ni’n annog y Canghellor a’r Ceidwadwyr i ail-ystyried.”

Cyfeiriodd y llywodraeth at ffigyrau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a ddywedodd y byddai'r newid yn cadw 15,000 o bobol yn y gweithlu.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.