Newyddion S4C

Galwadau i newid y rheolau dros ddifa gwartheg beichiog sydd wedi’u heintio â’r diciâu

Galwadau i newid y rheolau dros ddifa gwartheg beichiog sydd wedi’u heintio â’r diciâu

Mae Samuel Kurtz A.S - Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros amaeth yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwestiynu pam bod ffermwyr y wlad yn troi at elusennau iechyd meddwl.

Y rheswm yn ôl Mr Kurtz yw bod poen meddwl amaethwyr yn deillio’n uniongyrchol o’r polisiau sy’n cael eu llunio ym Mae Caerdydd.

O dan y rheolau presennol, mae gwartheg beichiog sy’n profi’n bositif am y diciâu yn cael eu saethu ar dir y fferm gan nad oes modd eu cludo ymaith i gael eu difa.

Mae ffermwyr wedi bod yn disgrifio’r profiad emosiynol o wylio’u hanifeiliad yn cael eu saethu, ond ar ben hynny, mae gweld llo yn boddi yng nghroth y fam yn gadael poen meddwl.

“Mae’n gwbl annynol.” Meddai Mr Kurtz.

“Dwi’n credu ei fod e’n annynol i’r anifail, a does ‘na ddim daioni i les y fuwch yn sgil y sefyllfa yma sydd gyda ni yng Nghymru. Mae hefyd yn annheg i’r ffermwyr i orfod weld hynny ei hunain.”

"I weld buwch yn cael ei difa, a llo yn y groth, yn brwydro. Dyw hynny ddim yn sefyllfa dwi eisiau bod yn gysylltiedig ag e, a mae yna drueni mawr bod Llywodraeth Cymru yn mynnu glynnu at y polisi yma.”

'Trist iawn'

Geraint Evans yw pumed cenhedlaeth ei deulu i amaethu ar ei fferm yn Sir Benfro. Mae wedi bod yn gweithio o dan gwmwl y diciâu ers 11 mlynedd. Mae ganddo gof byw o orfod gwylio chwech o’i fuches yn cael eu difa ar y clos.

“Roedd yn rhaid i fi eu rhoi nhw mewn rhes yn barod i fynd mewn i’r ‘crush’, a gweld nhw’n cael eu saethu.

"Ond beth oedd yn fy nolurio i fwyaf, wedd gweld y llo yn y groth yn cael ei fogi. Oedd y fuwch, y fam wedi marw. A wedd y llo yn wmladd… trist iawn.”

Image
Geraint Evans
Geraint Evans yw pumed cenhedlaeth ei deulu i amaethu ar ei fferm yn Sir Benfro.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Lles anifeiliaid yw’r ystyriaeth bennaf wrth dynnu gwartheg o ffermydd sy'n cael eu heffeithio gan TB.  

"Caiff gwartheg eu lladd ar y fferm pan fydd yn anaddas iddynt gael eu cludo'n fyw o ffermydd. Nid yw ein Polisi TB yn annynol nac yn ddidostur ac mae lladd gwartheg ar y fferm yn cydymffurfio'n llawn â deddfwriaeth les."

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn y cyfamser wedi bod yn trafod gydag unigolion a sefydliadau o fewn y diwydiant ac yn grediniol bod ffyrdd gwell o ddelio â’r sefyllfa.

Maen nhw'n dadlau nad oes tystiolaeth gadarn i ddangos bod gwartheg sydd wedi’u heintio yn debygol o basio’r clefyd ymlaen i’r llo.

“Hoffwn i weld y fuwch yn cael ei hynysu, bant oddi wrth gweddill y fuches.” Dywedodd Sam Kurtz A.S.

“Mae hi wedyn yn gallu rhoi genedigaeth gydag urddas a pharch. Mae’r tebygolrwydd bod y clefyd yn pasio rhwng y fam a’r llo yn isel iawn iawn, os o gwbl.

Y tu hwnt i’r polisi penodol yma, mae Geraint Evans yn disgrifio’r profiad o ffermio yng Nghymru ar hyn o bryd fel un digalon sy’n arwain at iselder.

“Mae cwmwl tywyll du drosto ni, a dwi’n defnyddio’r Saesneg yn aml i ddisgrifio fe. Mae fel ffarmio mewn ‘straight jacket’.”

Poeni am les meddyliol ffermwyr y mae'r cyn ddyfarnwr rygbi Nigel Owens, sydd bellach yn amaethu.

"Does dim pwynt i ni beidio trafod y peth, ma' 'na rhai ffermwyr wedi cymryd bywyd ei hunain," meddai.

"Dwi ddim yn gweud yn hollol nawr y TB yw'r unig reswm, ond mae e'n rhan o'r pictiwr mawr sydd yn achosi lot o ofid i ffermwyr."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod “yn ymwybodol o her enfawr TB mewn gwartheg, a'r gofid i ffermwyr orfod ei reoli.

"Rydym wedi gweld cynnydd da tuag at ddileu TB ers inni sefydlu ein rhaglen, gyda gostyngiadau hirdymor mewn achosion a nifer yr achosion newydd.

"Mae anifeiliaid sydd wedi eu lladd er mwyn rheoli TB wedi gostwng o 11,655 yn 2009 i 9,516 yn y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2022, sy'n ostyngiad o 18.4%."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.