Newyddion S4C

S4C

Gorchymyn dyn i dalu £90,000 ar ôl storio 8,000 tunnell o wastraff plastig ym Môn

NS4C 14/03/2023

Mae cyn-gyfarwyddwr cwmni ailgylchu wedi cael gorchymyn i dalu £90,000 wedi iddo ollwng a storio 8,686 tunnell o wastraff plastig yn anghyfreithlon ar safle ym Môn. 

Fe wnaeth Gordon Pearson Anderson, cyn-gyfarwyddwr Paperback Collection & Recycling Limited, adael y gwastraff ym Mharc Eco Orthios, Penrhos, Caergybi, ar hen safle Alwminiwm Môn.

Clywodd gwrandawiad Enillion Troseddau yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, 9 Mawrth, fod Mr Anderson wedi gwneud elw o £139,779.24 o'r gweithgarwch troseddol, yn cynnwys taliadau a dderbyniwyd yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr y cwmni.

Penderfynodd y llys fod gan Mr Anderson asedau o £90,000 ar gael a gwnaed Gorchymyn Atafaelu iddo i dalu £90,000 o fewn tri mis.

Os na fydd y swm yn cael ei dalu o fewn y cyfnod hwn, bydd yn cael cyfnod o 10 mis yn y carchar.

Image
newyddion

Mewn gwrandawiad dedfrydu blaenorol ym mis Awst 2021, dedfrydwyd Mr Anderson i 15 mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis, ar dri chyfrif gwahanol, i redeg ar yr un pryd.

Roedd hefyd yn ofynnol iddo wneud 250 awr o waith di-dâl ac fe gafodd ei wahardd rhag gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni am gyfnod o 15 mlynedd, wedi'i leihau i 6 mlynedd ar apêl ym mis Tachwedd 2022.

Fe wnaeth Mr Anserson bledio'n euog ym mis Mawrth 2021 i drosedd yn ymwneud â gollwng a storio 8,686 tunnell o wastraff plastig yn anghyfreithlon ym Mharc Eco Orthios, Penrhos, Caergybi.

Roedd hefyd wedi pledio'n euog i droseddau yn ymwneud â pheidio â chydymffurfio â thrwydded amgylcheddol y cwmni yn ei ganolfan ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint.

Roedd y troseddau'n ymwneud â storio gormod o ddeunydd gwastraff, methu â rheoli pentyrrau gwastraff a gweithredu llinellau tân yn unol â chanllawiau atal tân mewn perthynas â gwastraff.

Roedd costau glanhau sylweddol yn gysylltiedig â'r gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon hyn yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Image
newyddion

Dywedodd Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngogledd-orllewin Cymru:

Rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn cyfleu neges gadarnhaol i'r diwydiant gwastraff, bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi busnesau cyfreithlon ac na fydd yn goddef y rhai sy'n ceisio gwneud elw drwy dorri'r gyfraith, peryglu niwed i gymunedau lleol neu ddifrodi'r amgylchedd.

“Yn yr achos hwn, fe wnaeth y gweithredwr storio 8,686 tunnell o wastraff plastig yn anghyfreithlon a thorri sawl amod yn ei drwydded amgylcheddol, gan ddangos methiant parhaus i ystyried yr amgylchedd a'n hadnoddau naturiol.

“Gallai tân yn yr adeilad storio ar y safle hwn fod wedi cael effaith sylweddol ar gymunedau Caergybi yn ogystal â symudiadau ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd.

“Lle bynnag y bo modd, rydym bob amser yn ceisio gweithio gyda gweithredwyr i sicrhau bod eu gweithgareddau'n cydymffurfio â'r gyfraith, ond weithiau mae angen cymryd camau cyfreithiol."

Ychwanegodd: “Rydym yn cymryd troseddau gwastraff o ddifrif ac mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau i ddiogelu pobl a'r amgylchedd, yn ogystal â diogelu'r sector ar gyfer y gweithredwyr hynny sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

“Mae'r achos hwn yn dangos yn glir y bydd unrhyw un sy'n ceisio torri corneli yn y diwydiant gwastraff yn cael eu herlyn drwy'r llysoedd lle bo angen.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.