Newyddion S4C

Llysiau

Gallai bwyta diet Môr y Canoldir 'leihau risg o ddementia hyd at 23%'

NS4C 14/03/2023

Fe allai bwyta diet Môr y Canoldir leihau’r risg o ddementia hyd at 23% yn ôl gwyddonwyr.

Mae gwaith ymchwil newydd sydd wedi ei chyhoeddi yng nghyfrol BMC Medicine, yn awgrymu bod yna gysylltiad rhwng bwyta diet sydd uchel mewn cnau, pysgod, grawn cyflawn a llysiau, a chyfraddau is o ddementia.

Mae’r canfyddiad yn seiliedig ar ddata o dros 60,000 o unigolion sydd yn rhan o’r UK Biobank – bas data sydd yn cynnwys record feddygol a llesiant dros hanner miliwn o Brydeinwyr.

Mae’r ymchwil yn awgrymu fe allai diet Môr y Canoldir, sydd â chyfoeth o gynnyrch planhigion, gael "sgil effeithiau pwysig" ar y cyhoedd, ac y dylai cael ei ystyried fel rhan o strategaethau iechyd gan lywodraethau i leihau’r risg o ddementia.

Buddion hir dymor

Dywedodd Dr Janice Ranson, cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Caerwysg a chydawdur yr astudiaeth: "Mae canfyddiadau’r astudiaeth yma, gafodd ei wneud ar gyfran fawr o’r boblogaeth, yn tanlinellu’r buddion iechyd hir dymor i’r ymennydd, yn sgil bwyta diet Mediteranaidd, sydd â chyfoeth o ffrwythau, llysiau, grawn cyflawn a braster iach.

“Fe ddangosodd bod y diet yn cael effaith gwarchodol yn erbyn dementia i bobl, beth bynnag eu risg genynnol, ac felly mae hyn yn debygol o fod yn ddewis llesol i bobl sydd eisiau byw yn iach a lleihau’r risg o ddementia."

Mewn ymateb i’r astudiaeth, dywedodd Dr Susan Mitchell, pennaeth polisi Alzheimer’s Research UK, fod angen rhagor o dystiolaeth cyn gwneud unrhyw ganfyddiadau cadarn.

“Mae angen rhagor o ymchwil i atgyfnerthu’r ffigyrau diddorol yma, a gweld os yw’r buddion yma yn ymestyn i gymunedau lleiafrifol ble mae’r ddealltwriaeth o ddementia wedi bod yn is, yn hanesyddol,” meddai.

“Er nad oes ffordd sicr o osgoi dementia eto, mae diet sydd yn cynnwys lot o lysiau a ffrwythau, yn ogystal â digon o ymarfer corff a dim ysmygu, i gyd yn cyfrannu tuag at galon iach, sydd yn helpu gallu helpu gwarchod ein hymennydd rhag afiechydon a all arwain at ddementia.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.