Golwr CPD Caerdydd y cyntaf o'r gymuned Dde Asiaidd Brydeinig i chwarae yn y safle yn y Bencampwriaeth

Mae gôl-geidwad CPD Dinas Caerdydd wedi creu hanes trwy fod y gôl-geidwad cyntaf o'r gymuned Dde Asiaidd Brydeinig i chwarae yn y Bencampwriaeth.
Fe ddaeth Rohan Luthra, 20, oddi ar y fainc i Gaerdydd yn erbyn Preston North End ddydd Sadwrn.
Roedd yn eilydd i ymosodwr Cymru Mark Harris ym munudau ola'r gêm wedi i'r gôl-geidwad Jak Alnwick derbyn cerdyn coch.
Luthra oedd y gôl-geidwad De Asiaidd Prydeinig cyntaf i chwarae yn y Gynghrair, wedi iddo arwyddo o Crystal Palace ym mis Mehefin 2021.
Nid Luthra yw'r unig gôl-geidwad o'r gymuned Asiaidd Brydeinig i gyrraedd y penawdau yng Nghymru eleni.
Mae gôl-geidwad Cymru, Safia Middleton Patel wedi arwyddo ei chytundeb broffesiynol gyntaf eleni, ac wedi chwarae ei gêm gyntaf dros Gymru, gan gadw llechen lan hefyd.