Newyddion S4C

HSBC yn achub cangen Brydeinig Silicon Valley Bank

13/03/2023
Silicon Valley Bank a Jeremy Hunt

Mae HSBC wedi prynu cangen y DU o fanc Silicone Valley Bank yn yr Unol Daleithiau oedd mewn trafferthion.

Gobaith HSBC drwy wneud hyn yw osgoi argyfwng ymysg banciau bychain eraill a chwmnïau technoleg oedd wedi buddsoddi gyda SVB.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y DU a Banc Lloegr gamu i’r adwy i “hwyluso” gwerthiant preifat y banc.

Fe brynodd HSBC gangen Brydeinig Silicon Valley Bank UK, wedi i'r banc gael ei gau gan reoleiddwyr banciau California ddydd Gwener.

Roedd SVB ymysg banciau mwyaf yr Unol Daleithiau'r llynedd, gyda $209 biliwn mewn asedau.

Roedd pryder ddydd Sul y gallai cwmnïau ac unigolion ddechrau tynnu arian allan o fanciau bach eraill gan achosi chwalfa ariannol arall.

Cadarnhaodd y Canghellor Jeremy Hunt ddydd Llun fod holl flaendaliadau cwsmeriaid wedi’u diogelu, ac nad oedd arian y trethdalwyr ddim yn gysylltiedig â'r cam diweddaraf, yn dilyn pyniant HSBC o'r gangen yn y DU.

Dywedodd Mr Hunt: “Mae’r Llywodraeth a Banc Lloegr wedi hwyluso gwerthiant preifat o Silicon Valley Bank UK. Mae hyn yn sicrhau bod blaendaliadau cwsmeriaid yn cael eu diogelu ac yn gallu bancio fel arfer, heb unrhyw gymorth trethdalwyr.

“Rwy’n falch ein bod wedi dod i benderfyniad ar frys."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.