Gary Lineker 'yn debygol o ddychwelyd i gyflwyno i'r BBC' wedi gwrthdaro dros bolisi lloches

Mae'n bosib y gallai Gary Lineker ddychwelyd i gyflwyno Match Of The Day y penwythnos nesaf yn ôl adroddiadau, gydag awgrym ei fod ar fin datrys ei anghydfod gyda'r BBC.
Daw hyn yn dilyn ffrae wleidyddol wedi i Lineker feirniadu'r iaith o amgylch polisi lloches Llywodraeth y DU ar ei gyfrif Twitter yr wythnos ddiwethaf.
Mae “hyder cynyddol” y bydd cyn-chwaraewr Lloegr yn dychwelyd i gynnal sioe boblogaidd y BBC yn ôl asiantaeth newyddion PA.
Dros y penwythnos fe welwyd cryn newid i ddarpariaeth pêl-droed y gorfforaeth wedi i gyd-gyflwynwyr Lineker gynnal boicot o raglenni er mwyn dangos eu cefnogaeth iddo.
Mae disgwyl i’r gorfforaeth gyhoeddi ei bod yn adolygu ei chanllawiau cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y ddadl, gyda Lineker yn yn cytuno i fod yn fwy gofalus am yr hyn y mae’n ei gyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol, meddai’r Telegraph.
Cafodd darllediadau pêl-droed ar raglenni teledu a radio’r BBC eu haddasu dros y penwythnos wedi i gyflwynwyr a gohebwyr – gan gynnwys Alan Shearer, Ian Wright ac Alex Scott – wrthod cymryd rhan mewn darllediadau'r BBC a hynny mewn “undod” gyda Gary Lineker.
20 munud
Darlledwyd Match Of The Day am 20 munud yn unig nos Sadwrn, a hynny heb sylwebaeth na dadansoddiad gan gyflwynwyr, gyda rhifyn dydd Sul yn dilyn yr un trywydd gan fod 15 munud yn llai na'r arfer.
Darlledwyd y darllediad o gêm Uwch Gynghrair y Merched rhwng Chelsea a Manchester United heb gyflwyniad ddydd Sul, a disodlodd Radio 5 Live lawer o'i darllediadau chwaraeon byw arferol dros y penwythnos gyda chynnwys wedi'i recordio o flaen llaw.
Nid yw Lineker wedi gwneud unrhyw sylw yn gyhoeddus ar y sefyllfa ers iddo gael ei dynnu oddi ar yr awyr ddydd Gwener.
Ymddiheurodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, am yr aflonyddwch i’r amserlen chwaraeon y penwythnos hwn, ond dywedodd na fyddai’n ymddiswyddo o ganlyniad i'r anghydfod.