Newyddion S4C

Gary Lineker i ddychwelyd i gyflwyno i'r BBC wedi anghydfod dros bolisi lloches

13/03/2023
Gary Lineker

Fe fydd Gary Lineker yn dychwelyd i gyflwyno ar raglenni'r BBC, yn dilyn ffrae wleidyddol ar ôl iddo feirniadu'r iaith o amgylch polisi lloches Llywodraeth y DU yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r BBC wedi cadarnhau y bydd Lineker yn cyflwyno i'r BBC y penwythnos hwn, wedi iddo gamu'n ôl o gyflwyno Match of the Day nos Sadwrn.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie: “Mae Gary yn rhan werthfawr o’r BBC ac rwy’n gwybod cymaint y mae’r BBC yn ei olygu i Gary, ac edrychaf ymlaen at iddo gyflwyno ein darllediadau y penwythnos hwn.”

Cyhoeddodd hefyd y bydd y BBC yn lansio adolygiad annibynnol o ganllawiau cyfryngau cymdeithasol, gan ganolbwyntio'n benodol ar weithwyr llawrydd sydd yn gweithio tu allan i adrannau newyddion a materion cyfoes y gorfforaeth.

Dywedodd Gary Lineker mewn datganiad: "Rwy'n falch ein bod wedi dod o hyd i ffordd ymlaen. Rwy'n cefnogi'r adolygiad hwn ac yn edrych ymlaen at fynd yn ôl ar yr awyr."

Roedd rhaglen Match of the Day nos Sadwrn eb unrhyw gyflwynwyr na sylwebaeth wedi i Lineker gamu i'r ochr, gydag amryw o'i gyd-gyflwynwyr hefyd wedi gwneud y penderfyniad i beidio ag ymddangos ar raglenni'r BBC dros y penwythnos.

Daw'r anghydfod rhwng Gary Lineker a'r BBC wedi iddo gymharu'r iaith a oedd yn cael ei ddefnyddio o amgylch polisi lloches newydd Llywodraeth San Steffan gyda'r hyn oedd yn digwydd yn Yr Almaen yn y 1930au. 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.