Newyddion S4C

Ci

Achub ci oedd wedi mynd oddi ar glogwyn ym Mhorthgain

NS4C 12/03/2023

Mae gwylwyr y glannau wedi achub ci oedd wedi mynd oddi ar glogwyn ym Mhorthgain.

Galwyd yr achubwyr i’r pentref yn Sir Benfro ddydd Sadwrn am 22.30 GMT.

Llwyddodd un o’r achubwyr i abseilio’r clogwyn a chael gafael ar y ci.

Mewn neges dywedodd Gwylwyr y Glannau Abergwaun y dylid “cadw ci ar dennyn wrth gerdded ar lwybrau clogwyni”.

“Mae hyd yn oed y cŵn gorau yn mynd i drafferthion weithiau,” medden nhw.

Llwyddodd yr achubwyr i gludo’r ci yn ôl i’w berchennog a dychwelyd i’w canolfan erbyn 1.30 GMT ddydd Sul.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.