Newyddion S4C

David Brooks yng ngharfan Bournemouth am y tro cyntaf ers 2021

11/03/2023
Brooks

Mae David Brooks wedi ei enwi yng ngharfan Bournemouth am y tro cyntaf ers 2021. 

Derbyniodd Brooks ddiagnosis o Hodgkin Lymphoma Cam II ym mis Hydref 2021.

Er bod Brooks wedi chwarae yn nhîm dan 21 Bournemouth ym mis Awst y llynedd, dyma fydd y tro cyntaf iddo gael ei enwi yng ngharfan tîm cyntaf y clwb ers iddo dderbyn ei diagnosis. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y clwb: "Am y tro cyntaf mewn 525 diwrnod, mae David Brooks yn y garfan ar gyfer y gêm heddiw."

Ni chafodd Brooks ei gynnwys yng ngharfan Rob Page ar gyfer Cwpan y Byd, ond fe wnaeth hedfan i Qatar er mwyn cefnogi ei gyd-chwaraewyr cyn y gêm yn erbyn Lloegr ym mis Tachwedd.

Llun: AFC Bournemouth
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.