Jason Mohammad yn dweud na fydd yn ymddangos ar raglen y BBC er mwyn cefnogi Gary Lineker

Mae Jason Mohammad wedi dweud na fydd yn cyflwyno rhaglen Final Score ddydd Sadwrn wedi i Gary Lineker gael ei dynnu oddi ar Match of the Day.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn, dywedodd Jason Mohammad fod "Final Score yn raglen deledu sy'n agos iawn at fy nghalon.
"Ond rydw i wedi rhoi gwybod i'r BBC y bore ma na fyddaf yn cyflwyno'r rhaglen brynhawn yma ar BBC One," meddai.
Morning all.
— Jason Mohammad (@jasonmohammad) March 11, 2023
As you know, Final Score is a TV show very close to my heart.
However - I have this morning informed the BBC that I will not be presenting the show this afternoon on BBC One.
Nos Sadwrn, dywedodd pennaeth y BBC, Tim Davie, nad oes bwriad ganddo ymddiswyddo yn sgil y ffrae wleidyddol.
Dywedodd Mr Davie ei bod hi wedi bod yn "ddiwrnod anodd" ac "fel cefnogwr brwd o chwaraeon, dwi'n gwybod fod diffyg rhaglenni yn ergyd fawr a dwi'n ymddiheuro am hyn."
Ychwanegodd: "Mae pawb eisiau datrys y sefyllfa yn bwyllog. Gary Lineker ydy'r gorau yn y busnes - does dim amheuaeth am hynny."
'Mater rhwng y BBC a Lineker'
Mae Jason Mohammad yn un o nifer o gyflwynwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i Gary Lineker ers iddo gael ei dynnu oddi ar Match of the Day ddydd Gwener.
Daw hyn yn sgil ei sylwadau oedd yn beirniadu polisi lloches Llywodraeth San Steffan.
Mae prif weinidog Llywodraeth y DU, Rishi Sunak, wedi dweud fod y ffrae wleidyddol rhwng Gary Lineker a'r BBC yn "fater ar eu cyfer nhw, nid y Llywodraeth" gan gydnabod "nad pawb fyddai'n cytuno" gyda'i bolisi lloches newydd.
'Gweithio'n galed i ddatrys y sefyllfa'
Brynhawn Sadwrn, fe wnaeth y BBC ymddiheuro am y "rhaglenni chwaraeon cyfyngedig dros y penwythnos".
Ychwanegodd y gorfforaeth eu bod yn "ymddiheuro am y newidiadau hyn ac rydym yn cydnabod ei fod yn siomedig i gefnogwyr chwaraeon y BBC".
"Rydym yn gweithio'n galed i ddatrys y sefyllfa ac yn gobeithio gwneud hyn y fuan," medden nhw.
Cyhoeddodd un o feibion Lineker, Harry, brynhawn Sadwrn, fod ei dad "wedi mynd i weld gêm Leicester. Fydd o nôl heno."
Ni fydd Lineker yn cyflwyno'r rhaglen ar BBC One nes y bydd ef a'r BBC yn dod i gytundeb ar ei ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, meddai'r gorfforaeth mewn datganiad ddydd Gwener.
Yn ddiweddarach nos Wener, dywedodd y BBC na fydd yna "unrhyw gyflwyno na dadansoddi yn y stiwdio" a bydd y sioe yn canolbwyntio ar "y gêm yn unig."
Hyd yma, mae amryw o gyflwynwyr, sylwebwyr ac arbenigwyr pêl-droed wedi cyhoeddi na fyddant yn ymddangos ar y sianel ddydd Sadwrn.
Dywedodd Alex Scott fore Sadwrn nad oedd hi'n bwriadu cyflwyno rhaglen Football Focus heddiw "am nad yw'n teimlo'n iawn".
Ychwanegodd Kelly Somers na fyddai'n cyflwyno unrhyw sioe ddydd Sadwrn chwaith.
Y gred yw na fydd Mark Chapman yn cyflwyno rhaglen BBC Radio 5 Live Sport brynhawn Sadwrn ac ychwanegodd ei gydweithiwr, Dion Dublin, na fydd yn ymddangos chwaith.
Mae BBC Radio Wales hefyd wedi gorfod cyfyngu ei rhaglenni chwaraeon.
Ni fydd Call Rob Phillips, lle mae'r cyflwynydd yn cyflwyno barn y gwrandawyr ar y chwaraeon diweddaraf, yn cael ei darlledu ddydd Sadwrn.
Llun: Jason Mohammad (Senedd Cymru/CC BY 2.0) a Gary Lineker (James Manning/PA).