Newyddion S4C

Gary Lineker

Gary Lineker i beidio â chyflwyno Match of the Day am y tro wedi ffrae wleidyddol

NS4C 10/03/2023

Fe fydd Gary Lineker yn camu'n ôl o gyflwyno rhaglen Match of the Day am y tro, yn dilyn ffrae am ei sylwadau oedd yn beirniadu polisi lloches Llywodraeth San Steffan.

Ni fydd Lineker yn cyflwyno'r rhaglen ar BBC One tan y bydd ef a'r BBC yn dod i gytundeb ar ei ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, meddai'r gorfforaeth mewn datganiad ddydd Gwener.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae cyd-gyflwynydd Gary Lineker, Ian Wright, wedi cyhoeddi na fydd yn ymddangos ar y rhaglen nos Sadwrn.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Mr Wright: "Mae pawb yn gwybod beth mae Match of the Day yn ei olygu i mi, ond rydw i wedi dweud wrth y BBC na fyddaf yn ei wneud yfory. Undod."

Yn ddiweddarach ddydd Gwener fe gyhoeddodd Alan Shearer na fyddai yntau'n ymddangos ar y rhaglen nos Sadwrn chwaith.

'Anochel'

Ond mae penderfyniad y BBC i atal Gary Lineker o’i ddyletswyddau ar Match Of The Day yn “anochel”, medd cyn-ysgrifennydd diwylliant y Ceidwadwyr.

Dywedodd Syr John Whittingdale wrth raglen PM ar BBC Radio 4: “Rwy’n meddwl ei fod yn anochel. Y broblem yw bod Gary Lineker wedi ei gwneud hi’n glir ei fod am barhau i drydar ei farn.

“Ac wrth gwrs mae ganddo’r hawl i arddel ei farn, ond y broblem yw ei fod o hefyd yn berson uchel iawn – yn wir yr un sy’n cael y cyflog uchaf – yn gweithio i’r BBC ac mae ganddo gysylltiad agos â’r BBC.

“Ac mae gen i ofn nad yw'r ddau beth hynny'n gydnaws.”

'Penderfyniad llwfr'

Mae'r Blaid Lafur wedi condemnio “penderfyniad llwfr” y BBC i atal Gary Lineker rhag cynnal ei ddyletswyddau ar y rhaglen.

Dywedodd ffynhonnell ar ran y blaid: “Mae penderfyniad llwfr y BBC i dynnu Gary Lineker oddi ar yr awyr yn ymosodiad ar ryddid i lefaru yn wyneb pwysau gwleidyddol.

“Dylid chwerthin am ben gwleidyddion Torïaidd sy’n lobïo i gael diswyddo pobol am anghytuno â pholisïau’r Llywodraeth, nid petruso. Dylai’r BBC ailfeddwl eu penderfyniad.”

Dywedodd Lineker yn ei neges wreiddiol ar Twitter yn gynharach yn yr wythnos, gan gyfeirio ar fudwyr yn teithio i'r DU: "Does dim llif enfawr. Rydyn ni’n cynnig lloches i lawer iawn llai o ffoaduriaid na gwledydd eraill yn Ewrop. 

“Mae hwn yn bolisi creulon tu hwnt sydd wedi ei gyfeirio at y bobl fwyaf bregus gydag iaith sydd ddim yn annhebyg i hynny a ddefnyddiwyd yn yr Almaen yn y 30au.”

Ddydd Iau roedd y cyflwynydd wedi dweud ei fod yn parhau gyda'i feirniadaeth o'r polisi lloches, ac nad oedd yn ofni cael ei wahardd gan y BBC o ganlyniad i'w sylwadau.

Roedd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y DU, Michelle Donelan, wedi disgrifio ei sylwadau fel rhai "siomedig ac anaddas" a'i fod yn bwysig i'r BBC gynnal didueddrwydd er mwyn "cadw ymddiriedaeth y cyhoedd."

Brynhawn dydd Iau fe ddywedodd Lineker ei fod yn falch fod y stori amdano'n "tawelu" a'i fod yn edrych ymlaen i gyflwyno Match Of The Day nos Sadwrn. 

Bellach mae'n ymddangos na fydd hyn yn digwydd yn dilyn datblygiadau brynhawn dydd Gwener.

Llun: PA

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.