Newyddion S4C

Dyn yn wynebu carchar am anfon neges hiliol am gyn-chwaraewr Abertawe

10/03/2023
Michael Obafemi. Llun gan Huw Evans

Mae barnwr wedi rhybuddio dyn 26 oed ei fod yn wynebu dedfryd posib o garchar am anfon neges hiliol ynglŷn â chyn-chwaraewr CPD Abertawe, Michael Obafemi. 

Fe wnaeth Josh Phillips anfon y neges hiliol ar Twitter mewn ymateb i gyhoeddiad Abertawe fod Obafemi yn gadael y clwb i ymuno gyda Burnley ym mis Ionawr. 

Clywodd Llys Ynadon Abertawe fod y neges wedi'i ddileu cyn i Twitter wahardd y cyfrif yr oedd Phillips yn ei ddefnyddio am dorri eu reolau. 

Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu, cafodd Phillips, sydd o Abertawe, ei arestio a'i holi ynglŷn â'r neges.

Fe wnaeth Phillips gyfaddef iddo anfon y neges, oedd yn cynnwys gair hiliol sarhaus, ar 28 Ionawr, gan ddweud ei fod yn feddw ar y pryd. 

Yn ddiweddarach, fe blediodd yn euog i anfon neges ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn ddifrifol sarhaus, anweddus, neu fygythiol. 

Cafodd datganiad gan Obafemi ei ddarllen yn ystod yr achos llys ddydd Gwener. 

"Mae'r gamdriniaeth hiliol yn fy erbyn yn hollol annerbyniol," meddai.

"Does dim ots beth yw fy swydd neu liw fy nghroen. Rydw i yn berson a dydw i ddim yn haeddu'r ymddygiad yma.

"Dwi'n gobeithio y bydd y person sydd wedi gwneud y sylwadau yma yn dysgu nad yw camdriniaeth hiliol yn dderbyniol."

Fe wnaeth y barnwr rybuddio Phillips ei fod yn wynebu gwaharddiad o unrhyw gemau pêl-droed a dedfryd posib o garchar. 

Cafodd yr achos ei ohirio er mwyn i adroddiad gael ei baratoi am Phillips,  cyn iddo gael ei ddedfrydu. 

Dywedodd y Barnwr James: "Mae'n amlwg eich bod wedi pledio'n euog i drosedd difrifol tu hwnt.

"Ni ddylai'r ffaith fy mod yn gohirio'r achos ar gyfer adroddiad cyn dy ddedfrydu roi unrhyw awgrym i chi o beth bydd y ddedfryd.

"Mae nifer o opsiynau yn parhau yn agored yn yr achos yma, gan gynnwys carchar."

Mae Phillips wedi'i ryddhau ar fechnïaeth tan ei wrandawiad dedfrydu ar 31 Mawrth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.