Twf bychan yn yr economi ym mis Ionawr yn ôl yr ONS
Gallai economi'r Deyrnas Unedig osgoi dirwasgiad o drwch blewyn, wrth i’r ystadegau diweddaraf ddangos rhywfaint o dwf.
Tyfodd yr economi 0.3% ym mis Ionawr ar ôl syrthio -0.5% ym mis Rhagfyr.
Mae nifer o economegwyr wedi rhagweld y bydd dirwasgiad yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau erbyn diwedd 2023 wrth i chwyddiant wasgu ar yr economi.
Ond mae’r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yr ONS, yn awgrymu bod yr economi wedi bod yn fflat dros y tri mis diwethaf.
Roedd rhywfaint o’r twf o ganlyniad i bobol yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfres o streiciau ym mis Rhagfyr meddai’r ONS.
Dywedodd Darren Morgan, cyfarwyddwr ystadegau economaidd yr ONS, bod yr economi wedi “bownsio nôl o gwymp sylweddol ym mis Rhagfyr”.
“Ond dros y 12 mis diwethaf dyw’r economi ddim wedi tyfu o gwbl,” meddai.
‘Gwydn’
Bydd Jeremy Hunt yn traddodi ei gyllideb ddydd Mercher wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig geisio hybu twf yn yr economi.
“Mae economi'r Deyrnas Unedig yn fwy gwydn nag oedd rhai wedi ei ragweld,” meddai.
Ond dywedodd y Blaid Lafur ei fod yn arwydd nad oedd y Blaid Geidwadol yn gwybod sut oedd gwella bywydau pobl.
“Bydd pobol yn gofyn a ydyn nhw’n gyfoethocach dan y Ceidwadwyr, a’r ateb ydi nad ydyn nhw,” meddai’r canghellor cysgodol, Rachel Reeves.