Newyddion S4C

Hamburg

Babi heb ei eni ymysg y meirw wedi i nifer gael eu saethu yn yr Almaen

NS4C 10/03/2023

Mae babi heb ei eni ymysg y meirw yn dilyn ymosodiad ar ganolfan crefyddol yn ninas Hamburg yn Yr Almaen nos Iau. 

Mae o leiaf saith o bobl wedi marw wedi i'r ymosodwr ddechrau saethu mewn neuadd gyfarfod Tystion Jehofa yn y ddinas am tua 21:15.  

Ar hyn o bryd, nid yw'n glir os ydy'r ymosodwr ymysg y rhai sydd wedi marw.

Mae heddlu wedi enwi'r ymosodwr fel Phillip F, 35, a oedd yn gyn aelod o'r grŵp crefyddol. 

Dywed yr heddlu eu bod wedi darganfod person wedi marw yn y fan a'r lle a allai fod wedi bod yn gyfrifol am yr ymosodiad. 

Mae nifer hefyd wedi'u hanafu yn dilyn yr ymosodiad yn ardal Alsterdorf yn y ddinas. 

Dywedodd yr heddlu ar gyfryngau cymdeithasol eu bod yn ymateb i'r digwyddiad a bod parafeddygon ac ambiwlansys hefyd yn bresennol yn yr ardal. 

Mae'r cymhelliant tu ôl i'r ymosodiad yn aneglur ar hyn o bryd. 

Fore Gwener, dywedodd Canghellor Yr Almaen, Olaf Scholz, fod yr ymosodiad yn "weithred greulon o drais" ac bod ei feddyliau gyda'r dioddedfwyr a'u perthnasau. 

Mewn datganiad, dywedodd cymuned Tystion Jehofa yn Yr Almaen ei bod "wedi tristau’n fawr gan yr ymosodiad erchyll ar ei haelodau yn y ddinas ar ôl gwasanaeth crefyddol."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.