Galwadau am gytundeb rhyngwladol i leihau sbwriel yn y gofod

Mae grŵp o wyddonwyr wedi galw am gytundeb rhyngwladol er mwyn taclo'r broblem o sbwriel yn y gofod.
Yn ôl y grŵp, mae yna 100 triliwn o ddarnau o hen loerenni yn amgylchynu’r ddaear ar hyn o bryd.
Wrth i'r diwydiant gofod dyfu - mae disgwyl i'r nifer o loerenni gynyddu o 9,000 ar hyn o bryd i 60,000 erbyn 2030 ac mae'r gwyddonwyr yn pryderu na fydd modd defnyddio haen isaf orbit y ddaear oherwydd nifer y malurion.
Mae'r malurion sydd yn yr orbit yn gallu gwrthdaro gyda lloerenni angenrheidiol gan achosi niwed sy'n gallu effeithio ar wasanaethau ar y ddaear.
"Angen consensws"
Mae'r gwyddonwyr yn galw am ddeddfwriaeth newydd i sicrhau bod cwmnïau yn ystyried cynaliadwyedd eu lloerenni i leihau'r malurion sy'n cael eu gadael ar ôl.
Mewn erthygl yn y papur newydd 'Science', mae'r grŵp yn galw am gonsensws ar sut i lywodraethu orbit y ddaear.
Dywedodd Dr Imogen Napper, ymchwilydd ym Mhrifysgol Plymouth a phrif awdur yr adroddiad: "Mae'r broblem o lygredd plastig, a sawl sialens arall sy'n wynebu ein cefnforoedd, bellach yn denu sylw rhyngwladol.
"Nawr, rydym yn wynebu sefyllfa debyg gyda sbwriel yn y gofod. Heb gytundeb rhyngwladol, mae'n bosib y byddwn yn wynebu'r un problemau."
Ychwanegodd Melissa Quinn, pennaeth Spaceport yng Nghernyw, fod defnyddio'r gofod er lles y ddaear yn "peri risgiau."
"Mae'n rhaid i ni fel pobl gymryd cyfrifoldeb am ein hymddygiad yn y gofod nawr, nid yn ddiweddarach."