Disgwyl i’r rhannau o HS2 sydd agosaf at ogledd Cymru wynebu oedi

Mae disgwyl y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi y bydd oedi pellach cyn adeiladu'r rhannau o HS2 sydd yn dod agosaf at ogledd Cymru.
Mae’r BBC ar ddeall y bydd oedi pellach cyn adeiladu'r rheilffordd gyflym rhwng Birmingham a Crewe a rhwng Crewe a Manceinion.
Roedd disgwyl iddi gael ei hadeiladu erbyn 2040.
Mae HS2 wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol yng Nghymru wedi iddo gael ei ddynodi yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr.
Ar hyn o bryd, dim ond Yr Alban a Gogledd Iwerddon fydd yn cael budd ariannol o'r prosiect a fydd yn teithio rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.
Roedd hynny ar sail y ffaith ei fod yn darparu gwell cysylltiadau rhwng gogledd Cymru a gweddill y DU drwy gyfrwng gorsaf yn Crewe.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu’r arian ar gyfer Cymru hefyd.
'Abswrd'
Dywedodd yr AS Ceidwadol Simon Clarke y byddai oedi HS2 tu hwnt i Firmingham yn “benderfyniad doeth”.
“Mae gen i amheuon gwirioneddol am werth am arian y prosiect a’r gallu i reoli costau,” meddai.
Dywedodd Plaid Cymru ei fod bellach yn "abswrd" dweud fod HS2 yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr.
"Mae'n amlwg erbyn hyn na fydd yn ddim ond llinell newydd rhwng Llundain a Birmingham," meddai'r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts.