Mystic Meg wedi marw'n 80 oed

Mae Mystic Meg wedi marw'n 80 oed, yn ôl papur newydd y Sun.
Roedd yr astrolegydd - Margaret Lake oedd ei henw go iawn – yn golofnydd horosgop ar gyfer y papur newydd am bron i 23 mlynedd.
Roedd hi hefyd yn ymddangos yn gyson ar raglen y National Lottery yn ystod y 90au.
Dywedodd ei hasiant Dave Shapland wrth y Sun: “Heb unrhyw amheuaeth hi oedd hoff astrolegydd y Deyrnas Unedig.
“Roedd miloedd o Brydain ac o amgylch y byd yn ei dilyn hi.”
Dywedodd un fam o Wynedd fod Mystic Meg wedi chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau ei bod hi’n ennill y loteri.
Fe enillodd Mary Jones o'r Bala £9.3m yn 2004 ar ôl “darllen neges gan Mystic Meg yn dweud wrtha i am sicrhau fy mod i’n edrych ar fy nhocyn loteri”.
“Do’n i methu credu’r peth wrth weld ei fod wedi dod yn wir.”
Llun gan Sean Dempsey / PA.