Rhai ysgolion ar gau wrth i rybudd melyn am eira barhau i rannau o Gymru

Mae rhybudd melyn am eira yn parhau i rannau o Gymru ddydd Iau, ac mae yna rai ysgolion ar gau ar draws wyth o siroedd y wlad.
Daw'r tywydd gaeafol pellach ddiwrnod yn unig wedi i eira daro rhannau o'r de a'r de orllewin ddydd Mercher gan orfodi nifer o ysgolion i gau.
Cyhoeddwyd bore ddydd Iau y bydd dros 80 o ysgolion ar gau yn Sir y Fflint, 40 ym Mhowys, a phob ysgol yn Wrecsam.
Mae rhai ysgolion hefyd ar gau yng Ngwynedd, Sir Ddinbych, Sir Conwy, Blaenau Gwent a Thorfaen.
Rhybudd
Mae'r rhybudd melyn y bore ma yn effeithio yn bennaf ar siroedd yng ngogledd Cymru, ond roedd awgrym fod rhai ardaloedd fel Ynys Môn heb weld eira cynddrwg a'r disgwyl.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 07:00 fore Iau a bydd yn parhau tan 14:00 brynhawn Gwener.
Mae yna rybuddion y gall y rhew a'r eira achosi trafferthion ar y ffyrdd ac oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus ac i awyrennau.
Syrthiodd y tymheredd i -4.2C dros nos yng Nghapel Curig, Gwynedd.
Ddydd Mercher, roedd yn rhaid i Faes Awyr Bryste gau am gyfnod ac er ei fod wedi ail agor, rhybuddiodd fod y tywydd wedi amharu ar eu gwasanaethau.
Yng Nghymru, mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio hefyd fod posibilrwydd y gallai'r eira effeithio ar gyflenwadau pŵer, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.
Mae'r rhybudd ar gyfer y siroedd canlynol ddydd Iau:
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Wrecsam
- Powys
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Sir Fynwy
Ysgolion
Bydd pa ysgolion sydd ar gau yn cael ei gyhoeddi ar wefannau y cynghorau unigol. Mae modd eu gwirio isod:
- Abertawe- https://www.abertawe.gov.uk/ysgolionargau?lang=cy
- Sir Benfro https://www.sir-benfro.gov.uk/ysgolion-sydd-ar-gau
- Blaenau Gwent- https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/schools-learning/school-closures/
- Bro Morgannwg- https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Premises-and-School-Closure-Updates.aspx
- Caerdydd- https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Pages/default.aspx
- Caerffili- https://www.caerffili.gov.uk/services/schools-and-learning/schools,-term-dates-and-closures/check-if-your-school-is-closed?lang=cy-gb
- Casnewydd- https://www.newport.gov.uk/cy/Schools-Education/Schools/Schools.aspx
- Castell-Nedd Port- Talbot- https://www.npt.gov.uk/1611
- Ceredigion- https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/gwybodaeth-am-ysgolion/
- Conwy- https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Education-and-Families/School-Closures.aspx
- Sir Ddinbych- https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/cau-ysgolion-mewn-argyfwng.aspx
- Y Fflint- https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/SchoolClosures.aspx
- Sir Fynwy- https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/2022/02/ysgolion-ar-gau/
- Sir Gaerfyrddin- https://ysgolionargau.sirgar.llyw.cymru
- Gwynedd- https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/digwyddiadauargyfwng
- Merthyr Tudful- https://schoolclosures.merthyr.gov.uk
- Pen-y-bont ar Ogwr- https://www.bridgend.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-ac-addysg/cau-ysgolion/
- Powys- https://cy.powys.gov.uk/ysgolionargau
- Rhondda Cynon Taf- https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SchoolsandLearning/Schooltermdatesinsetdaysandemergencies/Emergencyclosures.aspx
- Torfaen- https://www.torfaen.gov.uk/cy/CrimeEmergencies/EmergencyManagement/Emergencies-severeweatherwarnings/Severe-Weather.aspx
- Wrecsam- https://www.wrecsam.gov.uk/school-status
- Ynys Môn- https://www.ynysmon.llyw.cymru/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion-wedi-cau.aspx
Llun: Dylan Wyn