Newyddion S4C

Marwolaethau Caerdydd: Heddluoedd De Cymru a Gwent yn destun ymchwiliad

08/03/2023
marwolaethau caerdydd 6 Mawrth 2023

Ddyddiau wedi marwolaeth tri o bobl ifainc mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd, mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr heddlu (IOPC) wedi dechrau ymchwiliad, a fydd yn bwrw golwg ar ymateb Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru 

Bu farw Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24 yn y gwrthdrawiad, tra bod Sophie Russon, 20 a Shane Loughlin, 32 yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol, wedi i'r car yr oedden nhw'n teithio ynddo wyro oddi ar ffordd yr A8(M) yn Llaneirwg cyn taro coed. 

Mae swyddfa'r IOPC yn asesu ymateb y ddau lu heddlu wedi iddyn nhw dderbyn adroddiadau fod pump o bobl ar goll. Mae honiadau na wnaethon nhw drin y mater o ddifrif.

Roedd y bobl ifainc wedi bod i glwb nos ym Maesglas, Casnewydd nos Wener, a'r gred yw iddyn nhw deithio 40 milltir i Borthcawl. Wnaethon nhw ddim dychwelyd adref, ac fe gysylltodd eu teuluoedd â'r heddlu i ddweud eu bod nhw ar goll.  

Cafodd gwylnos ei chynnal ger safle'r gwrthdrawiad nos Fawrth, gyda thua 1,000 o bobl yn bresennol. Cafodd tân gwyllt ei danio am ryw hanner awr, daeth eraill â chanhwyllau, tra gyrrodd eraill ar feiciau modur a beiciau cwad o amgylch y cylchdro.   

Dywedodd chwaer Rafel Jeanne, Ffion Actie, wrth wasanaeth Sky News yn yr wylnos, ei bod hi'n"siomedig" na wnaeth yr heddlu ymateb ynghynt.   

“Dwi'n teimlo y dylien nhw fod wedi ymateb yn syth,"meddai.

“Mi fyswn i'n hoffi meddwl, pe bai'r heddlu wedi cyrraedd yna ynghynt, byddai'r canlyniad yn wahanol," ychwanegodd. 

Derbyniodd yr heddlu yr alwad gyntaf yn nodi fod un ohonyn nhw ar goll am 19.34 nos Sadwrn. Bu cannoedd yn chwilio am y pump, ond ni ddaeth apel gyhoeddus gan Heddlu Gwent tan 17.37 nos Sul.

Mae Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn cysylltiad â'r achos, yn unol â'r drefn arferol. 

Dywedodd David Ford, Cyfarwyddwr IOPC : “Ar ôl asesu'r sefyllfa, ry'n ni wedi penderfynu cynnal ymchwiliad annibynnol i'r modd yr ymatebodd yr heddlu i'r adroddiadau fod bobl ar goll. "

“Byddwn yn asesu pa wybodaeth a dderbyniodd yr heddlu, a'r camau wedi hynny i geisio dod o hyd i'r bobol a oedd ar goll, cyn i'r car Volkswagen Tiguan gael ei ddarganfod toc ar ôl  hanner nos ddydd Llun. 

“Byddwn yn ystyried pa fath o gyfathrebu a fu rhwng y ddau lu heddlu ac a wnaethon nhw ymateb yn briodol gan ddilyn canllawiau yr heddlu."

Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Mark Hoborough a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jason Davies wedi dweud eu bod yn meddwl am deuluoedd y pump. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.