Newyddion S4C

Disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau newydd ar geiswyr lloches

Disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau newydd ar geiswyr lloches

Newyddion S4C 07/03/2023

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau newydd am eu bwriad i atal y llif o geiswyr lloches sydd yn croesi'r môr i Brydain mewn cychod bach.

Mae disgwyl i'r cyhoeddiad ddydd Mawrth atal yr hawl i geisiadau am loches gan y rhai sy'n teithio i'r DU dros y Sianel - cam sydd wedi ei feirniadu'n hallt gan wrthwynebwyr y cynllun.

Byddai'r fath gynllun yn golygu symud ceiswyr lloches i wlad dramor a'u gwahardd rhag dychwelyd neu hawlio dinasyddiaeth yn y DU.

Mae manylion am sut y byddai'r polisi yn cael ei weithredu yn brin, gydag ymdrechion blaenorol, megis polisi Rwanda, wedi’u rhwystro'n gyfreithiol.

Ond dywedodd Gweinidog y Cabinet, Michelle Donelan: “Yr wythnos hon byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ychwanegol, sy’n seiliedig ar yr egwyddor os ydy pobl yn teithio yma trwy ffyrdd anghyfreithlon, ni ddylen nhw gael aros, sy’n synnwyr cyffredin a chywir yn fy marn i."

'Dim gwahaniaeth'

Prif nod y ddeddfwriaeth newydd medd Llywodraeth y DU ydi atal troseddwyr rhag dod i'r DU, ac mae'r Blaid Lafur yn gofyn a oes angen targedu ceiswyr lloches er mwyn atal hyn.

Mae ASau Ceidwadol Cymru wedi dweud eu bod nhw'n cefnogi'r ddeddfwriaeth, a dywedodd aelod Gorllewin Clwyd David Jones mai dyma oedd y mater pwysicaf i'w etholwyr.

Ychwanegodd Virginia Crosbie AS bod unrhyw ddeddfwriaeth i atal y cychod bach yn cael ei chefnogaeth hi.

Mae un mudwr sydd wedi symud i Gymru o'r Arfordir Ifori wedi dweud nad yw'n gweld gwahaniaeth rhwng y rheiny sydd yn dod i'r DU ar awyren a'r rhai sydd yn croesi'r Sianel.

"Dwi ddim yn gweld y gwahaniaeth rhwng y bobl sy'n dod mewn awyren ac y bobl sy'n dod mewn cwch," meddai Joseph Gnabo.

"Pan mae bygythiad bywyd arnat ti, ti jyst yn edrych am ffordd o ffoi, ffordd o ddianc."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.