Newyddion S4C

Teyrngedau i dri o bobl ifanc a fu farw wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

06/03/2023
marwolaethau caerdydd 6 Mawrth 2023

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i dri o bobl ifanc a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ger Caerdydd - gyda dau arall yn dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad. 

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru nos Lun fod Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24 wedi marw yn y digwyddiad. Mae Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, yn cael triniaeth mewn ysbyty.

Roedd y pump yn teithio mewn car Volkswagen Tiguan a wyrodd oddi ar ffordd yr A48(M) yng Nghaerdydd cyn taro yn erbyn coed.  

Cafodd y tair menyw eu gweld ddiwethaf yng Nghaerdydd yn ystod oriau man fore Sadwrn, ar ôl iddyn nhw fod ym Mhorthcawl rai oriau ynghynt.

Roedd y tair wedi bod yng Nghasnewydd yn gynharach nos Sadwrn, a chafodd Heddlu Gwent wybod eu bod nhw ar goll. 

Fe gysylltodd teuluoedd y ddau ddyn â'r heddlu hefyd i ddweud eu bod wedi diflannu.  

Mae teyrngedau wedi eu rhoi ar gyfryngau cymdeithasol.  

Dywedodd perthynas Eve Smith: “Diolch am eich cefnogaeth ac am rannu gwybodaeth. Ni fyddwn yn ymateb i negeseuon, ac os gwelwch yn dda, gadewch i ni gael amser fel teulu i ddygymod â'r newyddion dychrynllyd hyn."

Dywedodd ffrind Darcy Ross ac Eve Smith: “Does gen i ddim geiriau ar hyn o bryd."

Mae negesuon eraill gan ffrindiau yn dymuno'r gorau i Shane Loughlin a Sophie Russon sydd ag anfiadau difrifol.  

“Fedrai ddim credu sut roedd Shane yn teimlo yn gaeth yn y cerbyd. Rydw i hefyd yn gobeithio y caiff Sophie wellhâd buan, ac dwi'n anfon fy nghariad a fy nghryfder at y teuluoedd.”

Cafodd y car yr oeddent yn teithio ynddo ei ddarganfod yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân fore Llun.

Image
Safle Gwrthdrawiad Llaneirwg

Yn ôl Heddlu Gwent, mae’n debyg fod y car wedi bod mewn gwrthdrawiad ar yr A48. 

Ychwanegodd yr heddlu bod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'r teuluoedd. 

Mae Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn cysylltiad â'r achos.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru: "Fe all Heddlu De Cymru gadarnhau fod swyddogion wedi eu galw am 00:15 ddydd Llun yn dilyn adroddiad o gar yn cael ei ddarganfod oddi ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, yng Nghaerdydd. 

"Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r gwrthdrawiad er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.

"Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am fod yn amyneddgar tra bod yr heol ar gau." 

Mae pobl wedi gadael blodau ger safle’r gwrthdrawiad yn ystod y dydd.

Mae’r heddlu hefyd yn dweud ei bod wedi arestio dyn yn agos i’r safle ar amheuaeth o dorri’r heddwch.

Yn ôl adroddiadau, cafodd Thomas Taylor, 47, o Dredelerch, ei arestio ar ôl i’r heddlu ofyn iddo i adael y safle.

Cyn cael ei arestio, dywedodd Mr Taylor: “Pan glywais yr adroddiadau, doeddwn i ddim yn credu ei fod yn bosib i gar ddod oddi ar yr hewl heb i neb wybod. Dw i dal ddim yn deall y peth.

“Rwy’n teimlo dros y teuluoedd achos mae’n amlwg o ddarllen yr adroddiadau, roedd ganddyn nhw deimlad nad oedd popeth yn iawn. Roedden nhw’n iawn.”

Prif lun: cyfryngau cymdeithasol / Lluniau uchod: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.