Lloeren: Cwmni o Gaerdydd ddim am lansio eto o’r DU ‘hyd yn oed am ddim’

Mae cwmni sy'n creu lloerenni gofod o Gymru wedi dweud na fydden nhw’n dewis lansio o’r Deyrnas Unedig unwaith eto hyd yn oed petai yna gynnig i wneud hynny am ddim.
Daw eu sylwadau yn sgil ymgais aflwyddiannus ym mis Ionawr i lansio nifer o loerennau o Faes Awyr Cernyw.
Roedd lloeren gan y cwmni SpaceForge o Gaerdydd ymysg y rheini a fethodd a chyrraedd y gofod.
Ymddangosodd cyfarwyddwyr SpaceForge o flaen Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg San Steffan yr wythnos hon i drafod beth aeth o’i le.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Greg Clarke, bod y methiant i lansio’r lloerenni wedi bod yn “drychineb” i’r Deyrnas Unedig.
Cytunodd Patrick McCall o SpaceForge, gan ddweud bod y lansiad wedi bod yn “hynod gyffrous” ond nad oedd “wedi gweithio”.
Ychwanegodd bod yna “ddim siawns” y byddai'r cwmni yn dewis lansio o’r Deyrnas Unedig eto y tro nesaf.
“Hyd yn oed pe bai’r DU yn dod a dweud y gallwch chi ei wneud am ddim, fe fyddwn i’n dweud - peidiwch â gwneud hynny,” meddai.
‘Methiant’
Ychwanegodd Patrick McCall mai "dyma’r tro cyntaf" i'r Deyrnas Unedig "wneud hyn, felly mae gwersi i’w dysgu a phethau i’w gwella y tro nesaf".
“Naill ai mae angen newid anferth er mwyn newid hynny, neu fe fyddwn ni’n penderfynu peidio gwneud hynny, arbed yr arian a’i wario ar bethau eraill sy’n hynod o gyffrous,” meddai Patrick McCall.
“Ond, heb fod eisiau bod yn rhy ddramatig, oni bai bod newid anferth yn y ffordd y bydd y DU yn gwneud pethau mae’n anodd eu gweld nhw’n bod yn gystadleuol.”
Ar y pryd, dywedodd Prif Weithredwr Virgin Orbit, Dan Hart, fod “methiant technegol” yn gyfrifol am y problemau.
“Yn y pen draw, mae’n ymddangos bod methiant technegol wedi ein hatal rhag cyrraedd yr orbit terfynol,” meddai.
Dywedodd yn ddiweddarach fod un ffilter, a oedd yn costio tua $100 yn unig, wedi dod yn rhydd ac wedi achosi’r problemau.
Llun: Y roced a fethodd a mynd a'r lloeren i'r gofod, gan PA.