Sgoriwr goliau mwyaf cynhyrchiol Cymru, Helen Ward, yn ymddeol
Mae Helen Ward, y chwaraewr sydd wedi sgorio’r mwyaf o goliau dros Gymru erioed, wedi cyhoeddi ei bod hi’n ymddeol.
Roedd hi wedi sgorio 44 o goliau dros Gymru, mwy na Gareth Bale oedd ar 41 cyn ymddeol.
Yn 36 oed, roedd hi hefyd wedi ennill 105 o gapiau dros ei chenedl.
Fe fydd hi'n ymddeol o chwarae dros Gymru yn syth ac o Watford ar ddiwedd y tymor.
Yn ei neges wrth ymddeol, dywedodd: "Dwi’n dy garu di, Cymru."
"Fydd y balchder o'n i'n ei deimlo wrth glywed y geiriau ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’ a'r teimlad o fod yn perthyn byth yn fy ngadael i.
Ychwanegodd ei bod yn "torri fy nghalon na es i i dwrnamaint mawr gyda’r tîm" ond ei bod hi'n ffyddiog "eu bod nhw'n mynd i'w gwneud hi'n fuan ac y byddan nhw'n disgleirio ar y llwyfan mwyaf oll".
Ychwanegodd ei bod hi'n gobeithio fod pob cefnogwr yn gwybod "fy mod i wedi rhoi peopeth" i'r tîm.
Llun: Helen Ward gan Huw Evans.