Newyddion S4C

HS2

Gallai HS2 gyrraedd yn hwyr wrth i gostau gynyddu medd prif weithredwr y prosiect

NS4C 03/03/2023

Gallai HS2 gyrraedd yn hwyr wrth i gostau gynyddu, yn ôl Prif Weithredwr y prosiect.

Dywedodd Mark Thurston fod chwyddiant wedi cael effaith “arwyddocaol” ar gost HS2 dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae cost cam cyntaf taith HS2 o Lundain i Birmingham wedi codi i £40.3bn.

Yn 2015, £55.7bn oedd cost ddisgwyliedig y prosiect cyfan.

Dywedodd Mark Thurston fod Llywodraeth y DU bellach yn edrych ar ffyrdd o gadw’r costau i lawr.

“Rydyn ni’n edrych ar amseru'r prosiect, yn edrych ar ail-drefnu'r prosiect, yn edrych ar y gadwyn cyflenwi er mwyn cael gafael ar bethau sy’n costio mwy ar hyn o bryd oherwydd chwyddiant,” meddai.

'Ymrwymo'

Daw hyn wedi i Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, alw ar Lywodraeth y DU ddoe i sicrhau fod Cymru yn derbyn ei siâr o'r arian sy'n cael ei wario ar brosiect rheilffordd HS2.

Ar hyn o bryd, dim ond Yr Alban a Gogledd Iwerddon fydd yn cael budd ariannol o'r prosiect a fydd yn teithio rhwng Llundain a Gogledd Lloegr.

Mae Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies wedi dweud y bydd Cymru yn cael digon o fudd o brosiect HS2.

Dywedodd y gweinidog rheilffyrdd Huw Merriman yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau eu bod nhw wedi “ymrwymo yn llwyr” i’r prosiect.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.