Rob Page yn dewis ei dîm hyfforddi newydd

Mae rheolwr Cymru, Rob Page wedi penodi dau aelod newydd i’w dîm rheoli.
Wedi i Kit Symons adael ei rôl fel is-reolwr ym mis Ionawr, mae Page wedi penodi Eric Ramsay fel ei olynydd.
Bydd Ramsay, sydd yn wreiddiol o Lanfyllin, yn cyfuno'r swydd newydd gyda'i rôl fel rheolwr tîm gyntaf Manchester United.
Nick Davies yw'r ail wyneb newydd sydd yn ymuno â thîm hyfforddi Page, a hynny fel pennaeth perfformiad.
Mae Davies yn gweithio i West Ham gyda David Moyes ar hyn o bryd, ac wedi gweithio i nifer o glybiau yn uwch gynghrair Lloegr yn ystod ei yrfa.
Bydd y ddau yn ymuno wrth i Gymru baratoi ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2024, sydd yn cychwyn ar 25 Mawrth gyda gêm oddi gartref yn erbyn Croatia yn Split, cyn iddyn nhw groesawu Latfia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 28 Mawrth.