Newyddion S4C

Harry a Meghan

Dug a Duges Sussex yn cael cais i adael eu cartref yn y DU

NS4C 01/03/2023

Mae Dug a Duges Sussex wedi cael cais i adael eu cartref yn y DU, sef Bwthyn Frogmore. 

Daw hyn ychydig wythnosau wedi i lyfr Harry 'Spare' a oedd yn cynnwys sawl cyhuddiad gwahanol gael ei gyhoeddi. 

Dywedodd llefarydd Harry a Meghan eu bod wedi derbyn "cais" i'r ddau adael eu cartref sydd gerllaw Castell Windsor. 

"Rydym yn gallu cadarnhau fod Dug a Duges Sussex wedi derbyn cais i adael eu cartref ym Mwthyn Frogmore," meddai'r llefarydd. 

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.