Newyddion S4C

Murlun i anrhydeddu Betty Campbell wedi ei gwblhau

ITV Cymru 28/02/2023

Murlun i anrhydeddu Betty Campbell wedi ei gwblhau

Mae murlun i anrhydeddu prifathrawes ddu gyntaf Cymru wedi cael ei gwblhau ar Ysgol Mount Stuart yn Nhrebiwt yng Nghaerdydd. 

Mae’r gwaith celf wedi bod yn cael ei baentio ers canol mis Chwefror.

Daeth Betty Campbell MBE yn bennaeth yr ysgol ym Mae Caerdydd yn yr 1970au ar ôl brwydro yn erbyn hiliaeth. 
 
Mae'r murlun wedi cael ei baentio ar ochr yr ysgol gan yr artist Bradley Rmer, wedi i'r disgyblion benderfynu dalu teyrnged iddi.

Dywedodd Prifathrawes bresennol Ysgol Mount Stuart, Helen Borley: “Mae ei hetifeddiaeth yn bwysig iawn i'r ysgol hon, ond hefyd yn genedlaethol. 

“Cafodd ei geni a'i magu yn Nhrebiwt. Fe wnaeth hi wasanaethu a charu'r gymuned hon ac roedd y gymuned hon yn ei charu hi.” 

Roedd Betty Campbell yn addysgwr arloesol, yn arweinydd cymunedol ac yn actifydd gyda brwdfrydedd dros ddysgu hanes a diwylliant pobl ddu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.