Babi coll: Arestio dau ar amheuaeth o ddynladdiad

Mae cwpl ddiflanodd ar ôl i'r fam roi genedigaeth wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.
Cafodd Constance Marten, 35, a Mark Gordon, 48, eu harestio gan Heddlu Sussex yn Brighton nos Lun ar amheuaeth o esgeuluso plentyn ond roedd y babi yn parhau ar goll.
Bellach, mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol yn ogystal.
Dywedodd y Ditectif Uwcharologydd, Lewis Basford, "nad oedd y babi gyda'r cwpl, ac nid ydym wedi dod o hyd i'r babi eto chwaith".
Roedd y cwpl wedi bod ar goll ers i'w car gael ei ddarganfod yn llosgi ar y M61 ger Bolton ar 5 Ionawr, ar ôl geni’r babi.
Dros yr wythnosau canlynol fe wnaeth y cwpl symud o gwmpas y DU, a gwelwyd nhw yn Lerpwl, Essex, dwyrain Llundain a Sussex.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n ansicr os y cafodd y babi ei eni yn gynnar neu gydag unrhyw broblemau iechyd gan nad yw wedi derbyn unrhyw driniaeth feddygol ers cael ei eni.