Storm aeafol yn taro Califfornia gan adael miloedd heb bŵer

Mae storm aeafol anghyffredin wedi taro Califfornia gan adael miloedd heb bŵer.
Mae mwy na 120,000 o bobl, llawer ohonyn nhw yn ardal Los Angeles, heb drydan ar ôl dyddiau o wyntoedd oer a ffyrnig.
Cafodd traffordd rhwng gogledd a de'r Arfordir Gorllewinol, Interstate 5, ei gau mewn ardal fynyddig a elwir y Grapevine.
Mae'r storm yn un o'r rhai cryfaf i daro'r dalaith yn ôl cofnodion hanesyddol, ac mae wedi arwain at wyntoedd di-baid, coed yn syrthio a llinellau pŵer yn cael eu dinistrio.
Rhybuddiodd y Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol (NWS) am law trwm a tharanau dros dde California, mewn bwletin ychydig ar ôl 20:00 GMT ddydd Sadwrn (12:00 amser lleol).
Mae trigolion prifddinas y dalaith, Sacramento wedi cael eu rhybuddio i osgoi teithio o ddydd Sul i ddydd Mercher wrth i'r glaw a'r eira barhau.
Hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw adroddiadau am unrhyw farwolaethau neu anafiadau difrifol o ganlyniad i'r storm.
Llun: AFP