Ymateb cymysg i strategaeth Cyngor Sir Gâr i blannu coed ar dir yr awdurdod
Mae cynlluniau i blannu miloedd o goed yn Sir Gaerfyrddin bob blwyddyn wedi cael eu croesawu – ond hefyd wedi’u cwestiynu – gan gynghorwyr y sir.
Mae penaethiaid y cyngor eisiau cynyddu nifer y coed ar dir sy'n eiddo i'r awdurdod o 5% i 19% erbyn 2050.
Dywedodd strategaeth ddrafft a gyflwynwyd i Bwyllgor Craffu y cyngor ddydd Gwener y byddai angen 33 hectar o goed newydd – tua 33 o gaeau rygbi – bob blwyddyn am y 27 mlynedd nesaf.
Dywedodd y strategaeth y byddai angen i ffermwyr tenant ar ffermydd sy'n eiddo i'r cyngor anelu at o leiaf 10% o orchudd coetir erbyn 2030.
Mae coed yn cloi carbon ac yn darparu buddion eraill, yn enwedig mewn trefi, ond roedd rhai o aelodau'r Pwyllgor Craffu - tra'n cymeradwyo'r cynllun plannu coed - yn pryderu am y goblygiadau i 24 o ffermydd tenantiaid y cyngor.
Gorchudd coed
Dywedodd y Cynghorydd Colin Evans ei fod yn meddwl tybed a allai gorchudd coed o 10% ar ffermydd tenantiaid fod yn “amhosib ei gyflawni”. Ychwanegodd fod cael tir ar gyfer cynhyrchu bwyd o “bwysigrwydd aruthrol”.
Dywedwyd wrth y pwyllgor fod y ffigur o 10% erbyn 2030 yn gyson â chynllun ffermio cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn disodli’r cynllun blaenorol yr oedd ffermwyr wedi elwa ohono pan oedd y DU yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Rosie Carmichael, rheolwr cadwraeth wledig y cyngor, fod y targed o 10% yn ddelfrydol ond y byddai'n rhaid i ffermwyr a ymunodd â'r cynllun cymorth ffermio newydd gadw ato.
Ychwanegodd: “Efallai bod rhai tenantiaid eisiau plannu coed.”
'Y goeden iawn yn y lle iawn'
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, aelod y cabinet dros newid hinsawdd, datgarboneiddio a chynaliadwyedd, y byddai'r strategaeth coed a choetiroedd newydd yn cael ei llunio drwy roi'r goeden iawn yn y lle iawn am y rheswm cywir.
Dywedodd y byddai adborth yn cael ei groesawu wrth i'r strategaeth gael ei datblygu ymhellach. “Mae hyn yn ymwneud â sgwrs ddwy ffordd gyda’n cymunedau,” meddai.
Ychwanegodd fod y ffigwr gorchudd coed o 19% ar gyfer tir ehangach sy'n eiddo i'r cyngor yn cyd-fynd ag argymhellion gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd a Choed Cadw, ond nad oedd yn statudol.
Byddai ffocws hefyd, meddai, ar blannu coed mewn ardaloedd trefol. Un elfen o'r strategaeth yw tynnu un o bob 100 o leoedd parcio allan o feysydd parcio'r cyngor a phlannu coeden yn ei le.
'14% o Sir Gâr dan orchudd coed'
Dywedodd adroddiad gerbron y Pwyllgor Craffu ar Gynaliadwyedd a Newid Hinsawdd fod gan ychydig dros 14% o Sir Gaerfyrddin gyfan orchudd coed. Mae hynny 1% yn fwy na chyfartaledd y DU – ond mae gorchudd coetir y DU ymhlith yr isaf yn Ewrop.
Dywedodd y Cyng Gareth Thomas, sy'n ffermwr, nad oedd plannu coed yn gynhyrchiol iawn, er iddo ddweud fod ganddo lawer ar ei dir. Roedd eisiau gwybod pa fath o goed oedd y cyngor yn bwriadu eu plannu, gan dynnu sylw at y ffaith bod y ddaear o dan goed conwydd yn ddifywyd.
Dywedodd Ms Carmichael ei bod yn disgwyl canran uchel iawn o goed a llwyni llydan ddail newydd ond y gallai rhai pinwydd Albanaidd, er enghraifft, fod yn rhan o'r cymysgedd.
“Byddai hyn yn cael ei wneud yn sensitif iawn... fesul safle,” meddai am y strategaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod coed dail llydan yn cymryd degau o flynyddoedd i gloi carbon, a bod yna argyfwng hinsawdd dybryd.
Dywedodd Ms Carmichael y byddai coed dail llydan yn cloi mwy o garbon yn y pen draw na chonwydd, oedd yn tyfu yn gynt.